Trefi a Phentrefi Sir Benfro
Does dim trefi mawr yn Sir Benfro mewn gwirionedd, ond mae gennym ddinas. Ychydig dros 1400 o bobl sy’n byw yn ninas Tyddewi, sy’n golygu mai dyma ddinas leiaf Prydain.
Mae gan drefi a phentrefi Sir Benfro gysylltiad agos â’r môr sy’n amgylchynu’r sir ar dair ochr, ac yn wir bu’r rhan fwyaf o’r cymunedau yn borthladdoedd ar gyfer rhyw nwyddau neu’i gilydd, rywbryd yn eu gorffennol.
Bu Trefdraeth, sy’n dref farchnad fechan a hardd ar lan Afon Nyfer, yn borthladd penwaig am gyfnod yn y gorffennol a dechreuodd pentref bychan, bach Abercastell ei hanes fel harbwr yn allforio llechi a grawn.
Mae Dinbych-y-pysgod (http://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb/darganfod-sir-benfro/trefi-a-phentrefi/dinbych-y-pysgod-a-phenalun) yn dref glan môr gaerog hyfryd. Y Normaniaid oedd yma’n wreiddiol a daeth Dinbych-y-pysgod yn dref gaerog yn ystod y 13eg ganrif.
Mae cymunedau Sir Benfro’n fywiog; yn llawn ysbryd cymunedol a meddyliau creadigol sy’n defnyddio tirwedd drawiadol Sir Benfro fel ysbrydoliaeth ar gyfer eu gweithiau celf.
Er enghraifft, mae tref farchnad fechan Arberth, yng nghanol Sir Benfr, wedi dod yn gyrchfan siopa ar gyfer unrhyw beth sy’n cael ei greu yn Sir Benfro; ac mae gwneuthurwyr paentiadau, crochenwaith, cerfluniau a gemwaith i gyd i’w cael yn y dref liwgar hon.
Amroth
Mae Nolton a Nolton Haven ym Mae Sain Ffraid ar arfordir gorllewinol Sir Benfro. Cymuned ffermio fechan yw Nolton.
Mae dwy ran i’r pentref bach hyfryd yma ar arfordir deheuol Penrhyn Dewi – Solfach Uchaf ar y bryn a Solfach Isaf yn nyffryn cul yr afon sy’n arwain at yr harbwr.
Pentref bychan iawn, dim ond 5 milltir o Benfro yw Bosherston, ond dyma ganolbwynt bywyd dringo Sir Benfro.
Mae Trefdraeth yn dref fach hyfryd ar arfordir gogleddol Sir Benfro. Mae ganddi ymwelwyr ffyddlon iawn, gyda llawer ohonynt yn treulio hafau cyfan yno bob blwyddyn, ac mae rheswm da am hynny.
Mae pentref Freshwater East ger bae cysgodol i’r de o Landyfái yn ne-orllewin Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae Cenarth yn bentref hynod o ddiddorol ar y ffin rhwng Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gâr. Canolbwynt y pentref yw’r gyfres o raeadrau bychain a phyllau ar afon Teifi, lle daw pobl i weld eogiaid yn neidio.
Pentref bychan glan y môr gyda thraeth creigiog, rhwng Saundersfoot ac Amroth, yw Wiseman’s Bridge. Cysylltir y pentref â Saundersfoot gan gyfres o dwneli, olion y rheilffordd gul oedd yn arfer cludo glo o’r pyllau glo lleol i Harbwr Saundersfoot.
Mae Cilgeti a Begeli yn bentrefi rhwng Arberth a Saundersfoot. Mae Begeli’n bentref hir ar briffordd yr A478 ac yma mae sw a pharc antur enwog Folly Farm Adventure Park a Zoo.
Mae Amroth ar arfordir deheuol Sir Benfro, 7 milltir i’r dwyrain o Ddinbych-y-pysgod ac ar ddechrau (neu ddiwedd os ydych yn cerdded o’r cyfeiriad arall) Llwybr Arfordir Sir Benfro sy’n 186 milltir o hyd ac yn enwog ledled y byd.
Mae Penfro’n dref gaerog hyfryd sy’n dyddio nôl dros 900 mlynedd ac sy’n enwog am ei Chastell Normanaidd. Mae Castell Penfro’n un o gestyll Normanaidd mwyaf cyfan y DU. Yma ganed Harri VII, sylfaenydd llinach y Tuduriaid.
Pentref bychan ar odre Mynyddoedd y Preseli yng nghefn gwlad Sir Benfro yw Maenclochog. Mae Rosebush 1½ milltir ymhellach i’r gogledd.
Mae Penrhyn Castell Martin i’r de-orllewin o dref Penfro ac yn cynnwys cymunedau anghysbell fel Merrion, Rhoscrowdder ac Angle.
Mae Cilgerran ar ffin ogleddol Sir Benfro rhwng Llandudoch a Chenarth. Mae’n bentref hir sy’n ymestyn ar hyd glan ddeheuol Afon Teifi.
Pentref mawr a sefydlwyd pan ddaeth y rheilffordd yn yr 1850au. Mae’r pentref ar yr A478 bron i hanner ffordd rhwng Dinbych-y-pysgod ac Aberteifi, sy’n ei wneud yn lle gwych i grwydro arfordiroedd de a gogledd Sir Benfro oddi yno.
Mae pentref hyfryd Angle mewn dyffryn cysgodol rhwng Bae Dwyrain Angle ar Ddyfrffordd y Ddau Gleddau a bae tywodlyd Gorllewin Angle wrth geg y Ddyfrffordd.
Hwlffordd yw tref sirol ddeniadol a hynafol Sir Benfro. Yn ogystal â bod yn ganolfan weinyddol y sir, mae gan Hwlffordd ddewis da o siopau yn y dref ac ar y cyrion.