Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

48 awr yn Arberth

48 awr yn Arberth

Updated

21 January 2026

Mae Arberth, gyda’i thai Sioraidd ac Edwardaidd amryliw, y tŵr cloc llawn cymeriad, a stryd fawr â siopau annibynnol sy’n gwerthu popeth o’r bwydydd deli mwyaf blasus i gelfyddyd gain, yn dref farchnad fach hynod yng nghanol dwyrain Sir Benfro sydd wedi sefydlu ei hun fel nefoedd o le am fwydydd a siopau, a rhaid ymweld â’r gyrchfan boblogaidd hon.

Nid yn unig y mae stryd fawr fywiog Arberth yn enwog yn Sir Benfro a Chymru ehangach fel cyrchfan berffaith drwy gydol y flwyddyn, mae hefyd wedi cael ei phleidleisio fel y lle gorau i fyw yng Nghymru gan y Sunday Times. Ac mae'n hawdd gweld pam - mae'r dref yn gymysgedd ffyniannus o fasnachwyr eclectig ac unigryw gydag arlwy o ansawdd uchel yn eu siopau, bwytai ac orielau hyfryd. Un sbardun i’w llwyddiant yw’r sîn gelfyddydol fywiog sy'n dod â phob math o gerddoriaeth fyw a pherfformiadau i'r dref fach Gymreig hon. Wyddech chi mai Neuadd y Frenhines oedd y lle cyntaf yng Nghymru i Elton John berfformio?
Tref yw hon lle mae'r bobl leol yn byw ac yn gweithio, wedi’i hamgylchynu gan lonydd tawel a llwybrau coediog ffrwythlon i ddianc iddynt, a thraethau sydd ond rhyw chwarter awr i ffwrdd os am fynd â’r ci am dro yn y bore a nofio gyda'r hwyr.
Efallai y byddwch yn aros am fwy na 48 awr.

Cynhelir digwyddiadau nodedig gydol y flwyddyn sy’n denu llawer o ymwelwyr, all ddylanwadu ar pa bryd fyddwch yn dod… Peidiwch â cholli Gŵyl Fwyd Arberth a gynhelir yn flynyddol ar benwythnos olaf mis Medi, y carnifal haf sy'n dod â lliw a gwisgoedd cyfnod i strydoedd fis Gorffennaf, neu'r Gwerthiant Planhigion Mawr yn y gwanwyn sy'n codi arian i'r elusen leol Span Arts.
Cynhelir Gŵyl Fwyd Arberth eleni ar Fedi 27-28 fydd yn dathlu pum mlynedd ar hugain o gynnal yr ŵyl. Y lleoliad yw Rhos y Dref, mae'r ŵyl sy’n dwyn ynghyd 50 a mwy o stondinau o'r bwydydd a'r diodydd gorau o Gymru (i gyd dan do!), bwyd stryd blasus, cerddoriaeth fyw, cogyddion gwadd, dosbarthiadau meistr, a gweithgareddau i blant – i gyd mewn awyrgylch gyfeillgar o fod mewn gŵyl.
Eleni, mae'r ŵyl yn croesawu Wynne Evans – pencampwr Celebrity MasterChef, darlledwr a seren opera – fydd yn rhannu ei angerdd am fwydydd gydol y penwythnos. Mae mynediad am ddim i blant dan 16 oed, a dau safle parcio a theithio yn ei gwneud hi'n hawdd cyrraedd yno.

Narberth Food Festival

Dechreuwch y diwrnod yn nefoedd y stryd fawr…

Mae'r bore yn gweld y stryd fawr yn dod yn fyw, felly mwynhewch fwrlwm bywyd bob dydd sy'n dechrau yn y dref fywiog hon. Dilynwch eich trwyn at arogl croissants a bara ffres wedi'u pobi yn Rock & Dough a mynnwch goffi i fynd yn y becws poblogaidd hwn sy'n gwerthu allan o’r cynnyrch bob bore. Mae'r croissants almon yn anhygoel.
Wedi cael caffein a chacen i’ch deffro, treuliwch fore hamddenol yn pori'r siopau a'r bwtîcs wrth eich pwysau, gan fwynhau gallu artistig a choginio cymuned leol Arberth. Mae pob math o siopau i'w harchwilio - os ydych yn chwilio am rywbeth arbennig i'ch atgoffa o’ch amser yn Sir Benfro, byddwch yn siŵr o ddod o hyd iddo yma.

Peidiwch â cholli Wild Wisteria, bwtîc annibynnol hyfryd sy'n llawn anrhegion, nwyddau cartref a moethau wedi'u dewis yn ofalus – y lle perffaith i brynu rhywbeth gwirioneddol unigryw i gofio'ch gwyliau.

Ar ôl cinio…

Ewch am dro i lawr tuag at adfeilion y castell. Mae Amgueddfa Arberth – yn y Bonded Stores hanesyddol – hefyd yn y pen hwn o'r dref, ac mae'n werth galw heibio. Mae yma arddangosfa ryngweithiol wych yn ogystal â siop lyfrau annibynnol a chaffi, sy'n berffaith ar gyfer dewis llyfr ar wyliau.
Os ydych chi'n hiraethu am gefn gwlad, does dim pell i fynd – mae'n llythrennol ar garreg eich drws. Mae llwybrau troed yn arwain allan o'r dref gan fynd â chi ar hyd gwrychoedd llawn tyfiant ac i mewn i goetiroedd tawel.
Anelwch am faes parcio Rhos y Dref a chymerwch y llwybr troed i lawr Lôn Melin Carding. Cyn bo hir byddwch wedi'ch amgylchynu gan heddwch y coed. O'r fan honno gallwch barhau i Goedwig Canaston ac ymhellach fyth i goedwig Mynwar ar hyd glannau Afon Cleddau.

Minwear Woods

Yn ôl yn Arberth, galwch heibio am ddiod yn y Star – tafarn fach sy'n mwynhau haul olaf y prynhawn – a gwneud cynlluniau am swper.

Mae digonedd o lefydd i ddewis ohonynt, gan gynnwys yr Angel ar y Stryd Fawr, sy'n gweini bwyd cartref o'r safon uchaf a dewis o'r cwrw a'r gwirodydd gorau o Gymru.
Am rywbeth gwirioneddol gofiadwy, mae’r Bwyty Fernery yn y Grove, sydd â 3 Rosette AA, yn siwrnai fer y tu allan i Arberth. Yma mae'r cogyddion yn gweini bwydydd hyfryd sy'n deilwng o oriel gelf ar adegau, drwy ddefnyddio cynnyrch tymhorol o'r ansawdd uchaf a llysiau a dyfir yng ngardd y bwyty ei hun. Gallwch fwynhau bwydlen flasu 5 neu 8 cwrs, neu archebu te prynhawn.
Annwn, yn hen fanc HSBC yng nghanol Arberth, dan arweiniad y cogydd Matt Powell, wedi denu sylw’r Michelin Guide ac wedi ennill seren Werdd Michelin yn 2024. Mae'r fwydlen flasu 10 cwrs yn dyst i'w arddull goginio arloesol, lle mae sylfeini clasurol Ffrengig yn cyfuno â chynhwysion cyfoethog, lleol o Gymru. Mae prydau megis cig oen tyner Cymru wedi'i frwysio mewn mêl Cleddau a’i weini ag emylsiwn helygen y môr, wedi'u hysbrydoli gan gasgliad helaeth Matt o lyfrau coginio traddodiadol Cymru.

Y diwrnod canlynol….

Dewch o hyd i le i gychwyn eich ail ddiwrnod yn Arberth a chael brecwast llawn maeth. Unwaith y byddwch yn barod i fynd, archebwch sesiwn yn Wild Lakes Cymru lle gallwch ddysgu wêcfyrddio a bowldro, neu herio'ch hun yn y parc dŵr. Mae hwn yn ddiwrnod allan gwych i unrhyw un sy'n caru'r dŵr ac mae ond yn siwrnai fer o Arberth. Gellir atgyfnerthu drwy fwynhau bwyd blasus yn y tipi am ginio hwyr.
Os byddai'n well gennych aros yn y dref, ewch i Pwll Nofio Arberth, y pwll nofio cymunedol hynod boblogaidd. P'un a ydych yn chwilio am sblash gyda’r teulu, nofio mewn lonydd, neu ddosbarthiadau ffitrwydd, mae'r ganolfan hamdden fodern hon yn cynnig ffordd wych o fod yn egnïol heb adael Arberth. Hefyd mae’n opsiwn gwych ar ddiwrnodau glawog, yn enwedig os ydych yn teithio gyda phlant.

Wild Lakes Wales

Yn olaf, ar ôl diwrnod prysur, ewch am y siwrnai fer i ymlacio a dadflino â phryd o fwyd ym Melin Pwll Du, Melin Sioraidd ar lan yr aber. Dyma gyfle i weld golau olaf y machlud haul yn adlewyrchu ar y dŵr, sydd, ar lanw uchel, yn lapio'r glannau ychydig fetrau o'r bwyty. Diwedd perffaith i arhosiad yn Arberth!

Dining at Blackpool Mill

MapLocation Pin 1