21 January 2026
Dau bentref glan y môr yw Aberllydan ac Aber-bach â naws cynnes o gymuned a golygfeydd dramatig o’r glannau, dau le perffaith i aros am wyliau byr yn Sir Benfro.
Dim ond taith gerdded fer sydd rhyngddynt (ie, gallwch grwydro rhwng y ddau ar hyd y traeth ar lanw isel neu ar hyd llwybr yr arfordir pan fydd y llanw i mewn), mae gan y ddau bentref cyfagos eu personoliaeth eu hunain - Aberllydan yw'r clasur gwyliau traeth i deuluoedd, ac Aber-bach yw'r bae perffaith, maint poced, sy'n llawn cymeriad a swyn.
P'un a ydych am benwythnos hamddenol, gwyliau traeth gyda'r plant, neu flas o fywyd arafach Sir Benfro, dyma sut mae gwneud y gorau o 48 awr yn y rhan syfrdanol hon o arfordir Cymru.
Ar eich diwrnod cyntaf…
Dechreuwch eich gwyliau yn Aberllydan, un o ffefrynnau pendant gwyliau traeth Sir Benfro. Mae’r traeth Baner Las yn hir, yn wastad ac yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd – yn wych ar gyfer padlo, nofio a chystadlaethau cestyll tywod. Mae achubwyr bywyd ar ddyletswydd yn ystod yr haf, gan ei wneud yn opsiwn diogel a chroesawgar i bob oed.
Ar ôl taith gerdded ar hyd y promenâd, ewch am dro heddychlon yng nghanol byd natur ar hyd y llwybr pren drwy’r corswellt y tu ôl i'r traeth – taith gerdded hygyrch llai adnabyddus lle gallwch weld adar a mwynhau ochr dawelach, gwylltach yr arfordir.

The Galleon Inn
Mae digon o ddewis am ginio hamddenol yn Aberllydan – o bysgod a sglodion i’w bwyta allan i fyrbrydau ysgafn o gaffis lleol, fydd yn rhoi digon o egni i chi am brynhawn o archwilio. Mae Tafarn y Galleon, yng nghanol y pentref, yn adnabyddus am ei awyrgylch hamddenol a'i fwydydd tafarn clasurol, ac yn lle gwych i fwynhau bwyd môr ffres neu gwrw traddodiadol Cymreig ar lan y môr.
Os ydych yn teimlo'n egnïol ar ôl cinio, dilynwch lwybr yr arfordir i'r naill gyfeiriad neu'r llall i gael golygfeydd godidog o ben y clogwyni. I'r de, mae'r llwybr yn eich arwain i Aber-bach, gyda golygfeydd dros Fae Sain Ffraid. Hefyd gellir cerdded ar y llwybr traeth rhwng y pentrefi ar lanw isel – cofiwch wirio amseroedd y llanw cyn i chi gychwyn.

Stylish vibes at Rwts
Ar gyfer cinio nos, archebwch fwrdd ym mwyty RWTS, gem chwaethus, hamddenol yn Aberllydan sy'n cynnig bwydlen fodern, tymhorol â chynnyrch lleol. Mae’r tu mewn wedi'i ddylunio'n chwaethus â seddi dan do ac yn yr awyr agored, dyma wledda arfordirol ar ei orau - perffaith ar gyfer cinio nos rhamantus neu swpera hamddenol gyda'r hwyr.
Aros dros nos:

Rocksdrift House Apartment
- Fflatiau Rocksdrift a SeaView – I’r rhai sydd am ddeffro i sŵn tonnau’r môr a golygfeydd arfordirol heb eu hail, ni allai llety hunanarlwyo Rocksdrift a SeaView fod yn agosach i’r môr. Mae'r fflatiau chwaethus, modern hyn yn cynnig ffenestri mawr, tu mewn cyfforddus, a cheginau llawn cyfarpar, gan eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer arhosiad byr a gwyliau hirach. Gyda'r traeth yn llythrennol ar draws y ffordd a chaffis, tafarndai, a llwybr yr arfordir ar garreg eich drws, maent yn berffaith ar gyfer teuluoedd, cyplau, neu deithwyr unigol sydd eisiau sedd yn y rhes flaen i fywyd traeth Aberllydan.

Timber Hill Lodges
- Bythynnod Timber Hill – ynghudd mewn dyffryn coediog heddychlon ychydig uwchben Aberllydan, mae Bythynnod Timber Hill yn cynnig dihangfa unigryw sy'n cyfuno swyn gwladaidd a chysur modern. Mae'r bythynnod cedrwydd coch arddull Sgandinafaidd hyn ar wasgar ar draws safle tawel, di-gar, yn berffaith ar gyfer teuluoedd, cyplau, neu unrhyw un sydd am ymlacio yng nghanol byd natur. Mae gan bob bwthyn ystafell fyw eang, cegin llawn cyfarpar, a decin awyr agored preifat - yn ddelfrydol ar gyfer bwyta yn yr awyr agored neu wylio’r bywyd gwyllt lleol. Ymhlith y cyfleusterau ar y safle mae lle chwarae i blant a mannau agored eang, gan ei wneud yn encil diogel a hamddenol.

Little Haven
Y diwrnod canlynol…
Yr ail ddiwrnod yw’r diwrnod i fwynhau swyn hamddenol Aber-bach. Ar un adeg yn bentref pysgota prysur, mae bellach yn hafan i artistiaid, cerddwyr, bwydgarwyr a phobl sy'n dwlu ar y traeth. Mae'r bae bach yn bleser i'w archwilio - wedi'i amgylchynu gan glogwyni a chychod yn siglo yn y môr, dyma'r math o le lle rydych yn teimlo ar unwaith eich bod wedi camu i mewn i gerdyn post.

Cornerhouse Cafe
Dechreuwch eich diwrnod â brecwast hamddenol yng nghaffi’r Cornerhouse – lle cynnes a chroesawgar sy’n gweini coffi gwych a bwyd ffres. Te sawrus neu ddarnau moethus o gacennau caws cartref, rhaid ymweld â’r caffi bach hwn tra byddwch yn y pentref. Ac mae hefyd yn gyfeillgar i gŵn!
Cymerwch ychydig amser i grwydro’r pentref a’i gyffiniau – mae’r traeth hwn yn llai na thraeth Aberllydan ond yn llawn cilfachau a chorneli, yn wych i blant eu harchwilio ac i oedolion ymlacio. Ar lanw isel, gallwch barhau i gerdded yn ôl i Aberllydan ar hyd y traeth – neu fynd i fyny ar lwybr yr arfordir i gael golygfeydd eang o’r môr ac awyr iach y môr.
Gyda'r nos, ewch am hufen iâ, dod o hyd i fainc uwchben y llithrfa, a gwylio’r haul yn dechrau machlud y tu ôl i'r clogwyni. Dyma'r foment berffaith i orffen eich gwyliau. Os ydych awydd cael pryd o fwyd tawel, mae’r tafarndai lleol yn cynnig bwydydd Cymreig blasus, neu cymerwch rywbeth i’w fwyta a mwynhau swper ar lan y traeth – bydd ddim angen newid dillad!

The Hideaway
Os ydych yn aros am ail noson, mae’r Hideaway yn cynnig llety hunanarlwyo heddychlon, modern yng nghanol Aber-bach – dim ond taith gerdded fer o'r traeth ond ynghudd am breifatrwydd a gorffwys. Yn ddelfrydol ar gyfer cyplau neu deuluoedd bach, mae'r encil hardd hwn yn cyfuno cysuron modern ag awyrgylch glyd, arfordirol. Mae'r lle yn cynnwys cegin llawn cyfarpar, lolfa gyfforddus, a phatio awyr agored preifat sy'n berffaith ar gyfer coffi bore neu ymlacio gyda'r hwyr. Hefyd mae twb poeth moethus yma, yn ddelfrydol ar gyfer ymlacio ar ôl diwrnod o gerdded ar yr arfordir neu archwilio'r traeth.
Pam fyddwch chi am ddod yn ôl
Gyda strydoedd tlws, traethau euraidd, ac ymdeimlad gwirioneddol o gymuned leol, mae Aberllydan ac Aber-bach yn cynnig y cyfuniad prin hwnnw o swyn pentref ac antur glan môr. P'un a ydych yn gwledda ar gacennau caws, yn cerdded llwybr yr arfordir, yn ymlacio mewn bwthyn, neu'n sipian gwin wrth edmygu’r golygfeydd o'r môr, ni fydd dau ddiwrnod byth yn teimlo'n ddigon hir.
Y newyddion da? Bydd Sir Benfro bob amser yn eich croesawu’n ôl.

