
Hwlffordd yw tref sirol ddeniadol a hynafol Sir Benfro. Yn ogystal â bod yn ganolfan weinyddol y sir, mae gan Hwlffordd ddewis da o siopau yn y dref ac ar y cyrion.
Prif nodwedd canol tref Hwlffordd yw afon Cleddau Wen sy’n llifo drwy ganol y dref, a’r castell fry uwchben.
Hwlffordd yw’r dref sirol felly mae gwasanaethau bws yn ei chysylltu â gweddill Sir Benfro, ac mae gorsaf rheilffordd yma hefyd.
Sefydlwyd Hwlffordd bron i 1,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod Oes Elisabeth, Hwlffordd oedd yr ail borthladd mwyaf yng Nghymru a’r prif borthladd yng Ngorllewin Cymru hyd dyfodiad y rheilffordd ym 1853.
Y castell yng nghanol Hwlffordd yw nodwedd amlycaf y dref. Fe’i hadeiladwyd tua 1110, ac mae hanes cythryblus iddo. Ym 1779-80, adeiladwyd Carchar y Sir yn y ward mewnol ac mae’r amgueddfa bellach yn nhŷ hen lywodraethwr y carchar.

Hwlffordd