Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Abergwaun a Wdig

Mae Abergwaun yn cynnwys hen harbwr Cwm Abergwaun a phrif dref Abergwaun ar ben y clogwyn. Mae Cwm Abergwaun yn bentref arbennig o brydferth gyda’i glwstwr o fythynnod ar y cei.

Mae gan Abergwaun gysylltiadau trafnidiaeth da yn lleol. Mae gwasanaethau bws arfordirol Gwibiwr Strwmbwl a Roced Poppit yn cysylltu’r dref â Thyddewi ac Aberteifi. Yn Wdig mae gorsaf rheilffordd Abergwaun, ac yno hefyd mae un o’r prif borthladdoedd fferi i Iwerddon.

Arferai Cwm Abergwaun fod yn borthladd masnachu pwysig yn lleol, yn mewnforio calchfaen a glo ac yn allforio llechi, nwyddau gwlân a bwyd. Bu fflyd fechan o gychod pysgota yn dal penwaig Mair ac ysgadan yno hefyd.

Er bod ei hanes morwrol a’i safle arfordirol yn arwyddocaol, y cyfnod o dwf tua diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif sy’n diffinio cymeriad arbennig Wdig. Wrth i’r rheilffordd gyrraedd ym 1906, ac i’r harbwr gael ei ddefnyddio gan longau’n teithio dros yr Iwerydd, y cyfnod Edwardaidd oedd oes aur Wdig, ac mae’r siopau Fictoraidd ac Edwardaidd yn rhan allweddol o gymeriad y lle.

Abergwaun a Wdig oedd lleoliad goresgyniad olaf Prydain ym 1797 pan laniodd y Ffrancod ar Drwyn Carreg Wastad, ger Abergwaun. Roedd Prydain a Ffrainc yn rhyfela eto ers 1793 ac, ar Chwefror 22ain, 1797, glaniodd mil pedwar cant o filwyr Ffrainc yng Ngorllewin Cymru. Ildiodd y Ffrancod ddeuddydd yn ddiweddarach yn sgil campau arwrol pobl fel Jemima Nicholas, gwraig crydd lleol, a gipiodd ddwsin o filwyr Ffrainc ar ei liwt ei hun – methiant fu’r goresgyniad. Llofnodwyd y cytundeb heddwch yn nhafarn y Royal Oak ar Sgwâr y Farchnad.

Yn ddiweddarach, Abergwaun a Wdig oedd lleoliad ffilmio Moby Dick gyda Gregory Peck, a defnyddiwyd Cwm Abergwaun yn gefnlen i ffilm o ddrama enwocaf Dylan Thomas, Under Milk Wood, gyda Richard Burton.

Cwm Abergwaun