
Pentref mawr yng nghysgod Mynyddoedd y Preseli yng ngogledd Sir Benfro yw Crymych. Mae Crymych ar yr A478 sy’n cysylltu Dinbych-y-pysgod ag Aberteifi.
Mae Boncath bedair milltir i’r gogledd o Grymych, ac mae llawer o faenordai gwych o’i gwmpas; y mwyaf trawiadol o’r rhain yw Ffynnone, a gafodd ei ddylunio a’i adeiladu gan John Nash ym 1792, a Chilwendeg, tŷ Sioraidd a adeiladwyd gan Morgan Jones.
Mae gwasanaeth bws Sir Benfro, 430, yn cysylltu Crymych a Boncath yn dda ag Arberth ac Aberteifi. Mae’r orsaf rheilffordd agosaf yng Nghlunderwen.
Ystyrir Crymych fel prifddinas y Preseli, yr ardal o gwmpas Mynyddoedd y Preseli. Mae’r diwylliant Cymreig yn gryf iawn yma, a’r Gymraeg yw mamiaith y rhan fwyaf o’r preswylwyr.
Tyfodd Crymych o gwmpas y rheilffordd yn y 19eg ganrif. Er bod y rheilffordd wedi hen fynd erbyn hyn, mae Crymych yn ganolfan amaethyddol brysur ac yn ganolfan ardderchog ar gyfer crwydro Bryniau’r Preseli. Gerllaw, mae taith gerdded heriol i gopa Frenni Fawr, sy’n 1300 o droedfeddi o uchder, ble deuai’r Ymerawdwr Rhufeinig, Magnus Maximus i hela yn ôl y sôn.
Tyfodd Boncath o gwmpas y rheilffordd hefyd, a thyfodd eto pan estynnwyd rheilffordd Hendy-gwyn ar Daf a Chwm Taf i Aberteifi. Roedd gorsaf rheilffordd Boncath, a agorwyd ym mis Medi 1886, yn orsaf dau blatfform ar y Cardi Bach, sef y lein rhwng Crymych Arms a Chilgerran Halt. Caewyd y lein yn sgil toriadau Beeching ym 1963.

Crymych