Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Angle

Mae pentref hyfryd Angle mewn dyffryn cysgodol rhwng Bae Dwyrain Angle ar Ddyfrffordd y Ddau Gleddau a bae tywodlyd Gorllewin Angle wrth geg y Ddyfrffordd.

Dynodwyd Angle yn ardal gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym 1995.

Mae Angle ar lwybr Gwibfws yr Arfordir, gwasanaeth bws yr arfordir, rhif 387, sy’n cysylltu pentrefi penrhyn Castell Martin â Phenfro sydd hefyd â gorsaf rheilffordd.

Ffermio a physgota oedd y ddwy swydd bwysig yn Angle yn y gorffennol. Mae gan Angle gysylltiad hir a balch â’r môr ac mae’r orsaf bad achub yn brawf o hyn. Bu swyddi eraill fel melino gydag ynni gwynt yn digwydd yno ers o leiaf 1298. Cafodd melin wynt a gofnodwyd yn niwedd y cyfnod Tuduraidd ei hail-adeiladu yn y 18fed ganrif a’i haddasu er mwyn ei defnyddio fel tŵr saethu yn ystod yr ail ryfel byd!

Mae nifer o adeiladau o’r oesoedd canol wedi goroesi yn y pentref ac mae’r Tower House yn adeilad caerog canoloesol hardd. Gellir gweld simnai hen waith brics Angle, a sefydlwyd yn yr 1880au, yng Ngorllewin Angle.

Angle

Location Angle