Y Stiwdio

Ynglŷn â Y Stiwdio

Y Stiwdio: Prosiect gan Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian (CARE)

Mae Y Stiwdio yn ganolbwynt Celfyddydau a Chynaliadwyedd yn Hermon, Sir Benfro, gofod creadigol lle mae croeso i esgidiau glaw! Lle i wneud, dysgu a thyfu.

Wedi’i chreu o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a deunyddiau naturiol lle bynnag y bo modd, mae Y Stiwdio yn ymgorffori technoleg arbed ynni a chynhyrchu cost isel yn y dyluniad.

Beth sydd ymlaen:

Pob rhestr: https://www.ystiwdio.co.uk/workshops

Rhaglen gwyliau’r haf:

Dydd Mercher 26 Gorffennaf – Dysgu Argraffu Leino https://tocyn.cymru/cy/event/1be96edb-ada4-4316-a005-5f7df9a0bb13

Dydd Mawrth 1 Awst – Creu Colograffau i Blant https://tocyn.cymru/cy/event/3cb99663-5e52-4270-834c-7669d6851144

Dydd Iau 3ydd Awst – Potiau Anifeiliaid Anhygoel! Gweithdy crochenwaith i blant https://tocyn.cymru/cy/digwyddiad/8e0d7455-929c-4e1c-9305-05a09ee06a2a

Gwybodaeth Ychwanegol

Open all year.

Llun: 10-3

Mawrth 10-3

Mercher 10-3

Yn ogystal ag oriau agor ychwanegol ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau

WELSH:: Price Info:

Ewch i https://www.ystiwdio.co.uk/gweithdai i gael rhestr lawn o’r hyn sydd ar y gweill a dolenni i docynnau a phrisiau.

Cyfleusterau:

  • Baby Changing
  • Disabled Access
  • Disabled Toilet
  • Open All Year
  • Parking (free)
  • Telephone
  • Toilets
  • Wet Weather attraction

Hygyrchedd

Mae ein hadeilad yn un lefel ac mae ganddo fynediad gwastad. Mae man parcio i’r anabl i’r chwith o’r adeilad. Mae ein toiled hefyd yn hygyrch.

Cyfarwyddiadau

Wrth deithio o Aberteifi / Crymych cymerwch y troad oddi ar yr A478 ger yr ysgol uwchradd.

Dilynwch y ffordd hir syth a byddwch yn cyrraedd Hermon, mae Y Stiwdio ym mhen pellaf y ffordd yma ar y gyffordd yn y pentref ac yn adeilad ffrâm bren.

Wrth deithio o gyfeiriad Llanfyrnach / Caerfyrddin dilynwch y cyfarwyddiadau i bentref Hermon SA360DX. Wrth i chi fynd drwy’r pentref fe fydd troad i’r dde ac fe welwch yr adeilad ffrâm bren ar y gornel.

Rydym ar lwybr bws rhif 430 o Arbeth i Aberteifi. Rydyn ni gyferbyn â’r safle bws yn Hermon.