Mae’r rhan yma o’r llwybr yn eich arwain heibio i bentir St. Ann lle mae’r Cleddau’n cwrdd â’r môr mawr. Gerllaw, mae Bae Watwick a Mill Bay, ble glaniodd Harri VII yn 1485 ar ei ffordd i frwydr Bosworth.
Wedi i chi fynd heibio i hen faes awyr Dale a Thrwyn Hooper cewch olygfa arbennig o draeth Marloes – a gorau oll os bydd y llanw allan ar y pryd. Cafodd y traeth ei ddefnyddio mewn golygfeydd yn y ffilm Hollywood mawr, Snow White and the Huntsman yn 2012.
Mae’r rhan hon o’r llwybr yn dod i ben ar bwynt mwyaf gorllewinol penrhyn Marloes, uwchlaw Swnt Jack ac Ynys Sgomer, gyda Bae Sain Ffraid yn ymestyn o’ch blaen. Mae’r rhan hon o’r llwybr yn weddol anodd.
Er bod Sir Benfro yn cynnig amrywiaeth o deithiau cerdded golygfaol ar gyfer pob gallu, nid yw pob llwybr yn sicr o fod yn gwbl hygyrch. Os ydych chi neu rywun yn eich grŵp yn defnyddio cadair olwyn, sgwter symudedd, neu bram, mae digon o lwybrau hygyrch, golygfannau, atyniadau a thraethau i'w mwynhau o hyd.
I gael y profiad gorau, cynlluniwch ymlaen llaw drwy wirio canllawiau hygyrchedd neu gysylltu â sefydliadau lleol, fel Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r Prosiect Walkability. Mae llawer o draethau hefyd yn cynnig rampiau concrit a Chadeiriau Olwyn Traeth ar gyfer mynediad haws.
Sicrhewch eich bod yn casglu gwybodaeth berthnasol ymlaen llaw i sicrhau profiad diogel a phleserus i bawb.