
1 March 2026
Am ddim ac ar agor i bawb
O weithgareddau morol ymarferol a thanciau cyffwrdd bywyd gwyllt i weithdai celf am ddim, theatr stryd a siantïau môr, mae Gŵyl y Môr yn dod â’r sefydliadau, y prosiectau a’r bobl sy’n gofalu am ein cefnfor a’n cymunedau arfordirol ynghyd.Cyfarfod â grwpiau lleol, darganfod ffyrdd ymarferol o ofalu am ein moroedd, dysgu am gynlluniau ynni adnewyddadwy morol, ac archwilio rhaglen hamddenol o weithgareddau hwyliog i bob oed. Mae’n gyfle i ddysgu rhywbeth newydd, cysylltu ag eraill a gweld y gwaith sy’n digwydd ledled Sir Benfro i warchod a chryfhau ein hamgylchedd morol.