
Yn 2026, mae’r eisteddfod genedlaethol yn dathlu carreg filltir ryfeddol - 850 mlynedd o ddiwylliant, iaith a chreadigrwydd Cymraeg. O’r 1af i’r 8fed o Awst yn Y Garreg Las, bydd miloedd o ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn dod ynghyd ar gyfer un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop.
Mae hwn yn gyfle unigryw i fusnesau twristiaeth, lletygarwch ac i economi ymwelwyr lleol arddangos popeth sydd gan ein hardal i'w gynnig.
P'un a ydych yn rhedeg llety, atyniadau, lleoliadau bwyd a diod, profiadau manwerthu neu wasanaethau ymwelwyr, gall cymryd rhan eich helpu:
Mae'r Eisteddfod yn denu ymwelwyr o bob oed sy'n awyddus i brofi diwylliant Cymru, archwilio'r ardal leol, a chefnogi busnesau lleol. Drwy gymryd rhan, gall eich busnes elwa o’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, hyrwyddo’r ardal ar y cyd, a chyfleoedd i gysylltu â’r ymwelwyr cyn, yn ystod ac ar ôl yr ŵyl.


Gall busnesau gymryd rhan mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys:
Mae dathlu 850 mlynedd ers yr eisteddfod gyntaf erioed yn llwyfan i ddenu sylw at ragoriaethau ein hardal i gynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol. Gyda’n gilydd, gallwn greu croeso cynnes Cymreig a gwaddol i ymwelwyr ac i’r cymunedau fel ei gilydd.
Fel rhan o bresenoldeb Sir Benfro yn Eisteddfod 2026 rhwng y 1af a’r 8fed o Awst, bydd gan Croeso Sir Benfro stondin wrth brif fynedfa Pentre'r Garreg Las (mae presenoldeb y sir ar faes yr eisteddfod yn cynrychioli Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin) fydd yn dathlu ac yn hyrwyddo popeth am Sir Benfro ac yn estyn croeso twymgalon Sir Benfro i'r ŵyl.
Pleser gennym yw gallu estyn gwahoddiad i rai o'n haelodau ymuno â ni dros yr 8 diwrnod i'n helpu i werthu Sir Benfro a phopeth sydd gan y sir i'w gynnig, yn ogystal â hyrwyddo eu busnes a'u sefydliad i rhyw 150,000 a mwy o ymwelwyr dros yr wythnos.
Gan fod y Pentre yn cael ei ddatblygu fel lle sy'n dathlu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg, byddwn yn gweithio'n galed i wneud i ardal Croeso Sir Benfro fod yn weladwy ac yn glywadwy yn Gymraeg drwy gydol yr wythnos ac yn rhyngweithiol megis arwyddion dwyieithog a deunydd dwyieithog ar gyfer ymwelwyr yn ogystal â gweithgareddau deniadol.
Felly rydym yn chwilio am bartneriaid all gynnig:
Y themâu ar gyfer yr eisteddfod yn 2026 yw Pobl, Yr Amgylchedd, a Bwyd Tir a Môr, felly mae hyn yn gyfle gwych i ni arddangos amrywiaeth gyfoethog y profiadau i ymwelwyr yn Sir Benfro a'r hyn sy'n ein gwneud ni mor arbennig ac unigryw fel cyrchfan.
Prin yw’r cyfleoedd felly cyntaf i’r felin fydd hi, felly os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy, anfonwch e-bostl @Liz Williams erbyn y 30ain o Fehefin 2026.

Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o'r ŵyl hollol unigryw hon yn hanes Cymru.
Ymunwch heddiw a helpu i wneud yr eisteddfod genedlaethol 2026 yn ddathliad i’w gofio.
Am ragor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan 2026 | Eisteddfod