Rydym yn gwahodd busnesau, sefydliadau, trigolion a phartneriaid ledled Sir Benfro i helpu i lywio gweledigaeth deng mlynedd ar gyfer ein heconomi ymwelwyr, fydd yn cyd-fynd â'n Cynllun Rheoli Cyrchfannau 2024-28.
Drwy lenwi’r arolwg isod, sy'n cymryd rhyw 10 munud i'w gwblhau, bydd eich safbwynt yn gymorth uniongyrchol i lywio blaenoriaethau, camau gweithredu a chyfeiriad y strategaeth derfynol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae grŵp cynyddol o bobl angerddol o bob cwr o Sir Benfro, busnesau, lleisiau cymunedol, sefydliadau lleol a phartneriaid, wedi bod yn cydweithio i lywio gweledigaeth hirdymor ar gyfer dyfodol ein heconomi ymwelwyr.
Mae gan Sir Benfro gyfle i fwrw ymlaen â’r hyn a elwir gennym yn dwf da. Twf sy'n creu gwerth uwch i fusnesau ac i’r cymunedau lleol, sy’n cynnal cyflogaeth gydol y flwyddyn, yn gwarchod yr amgylchedd naturiol, ac yn cryfhau balchder bro ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Nid twf ar unrhyw gost yw hyn.
Mae'n golygu gofyn cwestiwn llawer mwy:

"Sir Benfro yw'r lle mwyaf rhyfeddol i fyw, gweithio ac ymweld. Bydd y dewisiadau a wnawn dros y degawd nesaf yn llywio nid yn unig ein heconomi ymwelwyr, ond y math o le y byddwn yn ei adael i genedlaethau'r dyfodol.
Dyna pam y mae'r arolwg hwn yn bwysig. Gadewch i ni lywio gweledigaeth gyffredin ar gyfer Sir Benfro a diffinio’r hyn a olygir gan dwf da ar gyfer ein sir. Twf sy'n cynnal busnesau a chymunedau lleol, yn gwarchod yr amgylchedd a werthfawrogir gymaint gennym, ac yn creu cyfle i genedlaethau'r dyfodol. Cofiwch leisio’ch barn."

Neil Kedward - Chair and Founder and Managing Director of the Seren Collection and Routescape
Nid dechrau o'r dechrau yw hyn. Mae llawer iawn o feddwl a chydweithio eisoes wedi digwydd. Ond mae'r cam nesaf hwn yn hynod bwysig gan ei fod yn agor y drafodaeth i'r gymuned ehangach. Mae hynny'n golygu chi!
P'un a ydych yn rhedeg busnes, yn cyflogi pobl, yn gweithio yn y sector, yn cadw ymwelwyr, neu'n syml yn poeni'n fawr am ddyfodol y sir hon, mae eich llais chi yn bwysig.
Mae gan Sir Benfro gyfle eithriadol dros y degawd nesaf, nid yn unig i dyfu, ond i dyfu'n dda.
Diolchwn i chi ymlaen llaw am helpu i lywio dyfodol Sir Benfro. *
A fyddech gystal ag argraffu’r cod QR sydd ynghlwm a'i arddangos i'ch staff, gwesteion, ymwelwyr ac i’ch teulu i’w lenwi hefyd. Bydd yr arolwg yn cau ddydd Gwener yr 21ain o Awst.