29 October 2024
Nid dim ond yn Ffrainc neu'r Eidal y mae gwinllannoedd arobryn; mae digon ohonynt hefyd yng Nghymru. Mae gwneuthurwyr gwin Cymru yn cyfuno hinsawdd heulog, awel arfordirol a phridd da i gynhyrchu gwinoedd o ansawdd uchel, gyda gwinllannoedd Sir Benfro yn cynnig teithiau blasu, bwyd blasus, a llety dros nos.
GWINLLAN FELFFRE
Wedi’i sefydlu yn 2016 ac yn gartref i 4,000 a mwy o winwydd wedi’u plannu ar draws bron i 3 erw o dir, mae Gwinllan Felffre mewn ardal hyfryd ar gyrion pentref Llanbedr Felffre ger Arberth. Mae’r winllan deuluol hon yn cynnig blasu gwin, teithiau tywys, te prynhawn moethus, te hufen traddodiadol ac, wrth gwrs, y cyfle i brynu ychydig o win.
Am ddiwrnod allan gwych, beth am archebu lle ar daith dywys a dysgu sut y sefydlwyd y winllan, cerdded ymhlith y gwinwydd a darganfod mwy am sut y gofelir amdanynt gydol y flwyddyn. Yn y ganolfan ymwelwyr, cewch ddysgu sut mae'r grawnwin yn cael eu troi'n win cyn cael blasu'r cynnyrch ei hun ar y diwedd, mwynhau cinio ysgafn yn edrych dros y winllan, prynu talebau anrheg a gwinwydd mewn potiau a hyd yn oed mabwysiadu eich gwinwydden eich hun.
CWM DERI
Nepell o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Gwinllan Cwm Deri yn cynhyrchu gwinoedd llonydd a phefriog o rawnwin Madeleine Angevine, Seyval Blanc a Triomphe d’Alsace, yn ogystal ag amrywiaeth o winoedd ffrwythau a gwirodydd. Wedi’i sefydlu ym 1988, plannodd John a Lyn Hamilton Cowburn y 3,000 o winwydd yng Nghwm Deri â llaw, a chymerodd dair blynedd i gynhyrchu’r grawnwin cyntaf. Yn 2004, pan gymerodd y perchnogion newydd Mike a Danny drosodd, fe ddechreuon nhw adfer y gwinwydd.
Cewch fwynhau blasu’r gwin, teithiau o gwmpas y winllan a theithiau cerdded drwy'r goedwig, ac ar ôl ychydig oriau o archwilio, gallwch fwynhau bwyd lleol blasus a bwyd cartref ym mwyty Cwm Deri. Gallwch hyd yn oed ymestyn eich ymweliad drwy aros dros nos yn y maes gwersylla.
GWINLLAN HEBRON
Mae Gwinllan Hebron yn winllan organig a blannwyd yn 2010 gan Jemma Vickers a Paul Rolt, ar ôl dychwelyd i Gymru wedi naw mlynedd o droi lle gwin sefydledig yn Andalucia, Sbaen, yn winllan organig drwy fanteisio ar amgylchedd naturiol unigryw y winllan. Maent bellach yn cynhyrchu gwinoedd arobryn, gan gynnwys gwin pefriog eithriadol sydd wedi cael statws PGi. Mae eu gwinoedd yn crisialu purdeb yr amgylchedd ym mhob gwin vintage ac ond yn defnyddio grawnwin o'r winllan.
Mwynhewch yr amgylchoedd heddychlon wrth i chi grwydro drwy'r gwinwydd a'r gerddi, ac mae teithiau preifat ar gael drwy apwyntiad, a chroeso i brynu’r gwin wrth ddrws y seler. Mae llety dros nos ar gael yn eu hysgubor laeth glyd wedi'i haddasu sy’n cynnwys dwy stôf llosgi coed.

