29 October 2024
P’un a ydych ar wyliau glan môr, ar antur taith gerdded, neu’n awyddus i ymlacio am rai dyddiau, bydd treulio cyfnod mewn sba moethus yn Sir Benfro unrhyw adeg o’r flwyddyn yn brofiad o ymlacio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.
Os ydych chi am dreulio amser gwerthfawr gyda’r teulu, ffrindiau neu anwyliaid ar ôl diwrnod prysur o weithgareddau, neu am ddianc am y penwythnos, bydd egwyl sba hyfryd mewn un o atyniadau Sir Benfro yn sicrhau eich bod yn cael profi'r holl driniaethau a’r cyfleusterau sydd eu hangen i wneud yn siŵr eich bod yn gadael wedi'ch bywiogi a’ch adfywio.

TGWESTY A SBA CAS-BLAIDD
Yn swatio rhwng Hwlffordd ac Abergwaun, mae gwesty Cas-blaidd yn blasty gwledig godidog mewn pentref delfrydol ac wedi’i amgylchynu gan lwybrau cerdded syfrdanol drwy’r coetir, sydd nepell o’r arfordir, ac wedi’i enwi’n ddiweddar fel y Lleoliad Priodas Boutique Gorau yng Nghymru. Hefyd, byddwch yn cael defnyddio’r sawna a’r jacuzzi am ddim fel rhan o bob triniaeth sba.
GWESTY SBA HEYWOOD
Gwesty mewn erw o dir sydd wedi’i gynnal a’i gadw’n hyfryd, mae Gwesty Sba Heywood dim ond rhyw filltir o dref glan y môr Dinbych-y-pysgod ac yn cynnig parcio am ddim, felly dyma’r lle perffaith i orffwys ar ôl diwrnod ar y traeth neu yn cerdded llwybr yr arfordir. Ar ôl cael eich pampro, bydd cyfle i orweddian yn y twb poeth dan do, ymlacio'ch cyhyrau mewn sawna isgoch neu blymio i’r pwll.

Gwesty Sba St Brides
GWESTY SBA ST BRIDES
Wedi’i leoli ar ben clogwyn sy’n edrych dros draeth hyfryd Saundersfoot ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Gwesty Sba St Brides yn hafan o foethusrwydd gyda sba forol arobryn, ystafelloedd thermol anhygoel gydag ystafell trwyth halen, ystafell stêm aromatig, sawna cerrig, cawod synhwyraidd a ffynnon iâ, a phwll hydrotherapi anfeidredd anhygoel sy'n edrych allan dros y bae.
GWESTY A SBA LAMPHEY COURT
Mae Gwesty a Sba Lamphey Court yn blasty Sioraidd 4-seren o’r 19eg ganrif gyda llety moethus a sba eithriadol, i gyd mewn lleoliad hyfryd ger Plas yr Esgob canoloesol Llandyfái sy’n cynnig dihangfa heddychlon o ruthr bywyd bob dydd gyda phwll anfeidredd 14 metr, campfa llawn offer, sawna perlysieuol, ystafell stêm aromatig, ystafelloedd triniaeth a hyd yn oed lle trin gwallt.

Bluestone
CANOLFAN WYLIAU BLUESTONE YN Y PARC CENEDLAETHOL
Islaw Mynyddoedd hudolus y Preseli, wedi’u hamgylchynu gan goetir hynafol a ffermdir bryniog, mae Canolfan Wyliau Bluestone yn y Parc Cenedlaethol. Mae gwyliau sba yn Bluestone yn unigryw o hyblyg, sy'n eich galluogi i deilwra'ch profiadau, archebu'ch llety, ac yna addasu eich noson berffaith i ffwrdd gydag ystod eang o driniaethau yn y Sba, gan gynnwys tylino, triniaeth wyneb, a mynediad i’r ystafelloedd thermol.
SBA GWLEDIG SCOLTON
Mae Sba Gwledig Scolton yn hafan o foethusrwydd yng nghanol cefn gwlad Ystâd Scolton o’r 18fed ganrif, lle gallwch ymlacio’n heddychlon yng nghanol coetir, bywyd gwyllt, anifeiliaid fferm a chaeau. Sba gymdeithasol yw hon sy’n canolbwyntio ar ymlacio ac yn cynnig ystod o driniaethau tymhorol dan ddylanwad yr amgylchedd naturiol gyda thwb poeth mewn casgen cedrwydd, baddon awyr agored a llosgydd coed, a bugeildy â gardd sba breifat.
SBA CELTIC HAVEN
Fel unig Sba Premier Elemis yng Ngorllewin Cymru, mae’r Celtic Haven yn Lydstep ger Dinbych-y-pysgod yn cynnig dewis deniadol o driniaethau sba moethus a phecynnau pampro gwych i'ch helpu i ail-fywiocau, ail-ystwytho’ch corff a'ch gadael yn teimlo fel person newydd, gyda'r Ystafell Ymlacio yn cynnig golygfeydd syfrdanol ar draws y clogwyni i Ynys Bŷr a thu hwnt.
GERDDI SWALLOW TREE
Nepell o Draeth Saundersfoot, mae Gerddi Swallow Tree sy’n safle teuluol mewn man diarffordd ar yr arfordir ac sy’n cynnig ystod eang o lety yn ogystal â chanolfan hamdden gyda phwll nofio mawr wedi'i gynhesu dan do, ystafell ffitrwydd llawn offer, ystafell stêm a sawna ac ystafelloedd harddwch lle gallwch ail-fywiogi gydag amrywiaeth o driniaethau.
BADDONDY A SBA MENEVIA
Yn seiliedig ar ddefodau iachau hynafol 'mynd i'r dyfroedd', mae Baddondy a Sba Menevia wedi creu encil hyfryd yng nghanol Tyddewi. Mae’n cynnig ystod o therapïau sba holistaidd a phrofiad baddondy bwtîc unigryw, ac mae hwn yn fusnes annibynnol bach lle gallwch gael mynediad unigryw i'r cyfleusterau, profiadau aromatherapi a thriniaethau pwrpasol, i gyd gyda therapyddion cymwys iawn.

