28 August 2024
Mae gan Sir Benfro rai o’r traethau gorau yn y DU, a phob un yn cael eu gwarchod gan eu statws Parc Cenedlaethol; fodd bynnag, oherwydd eu lleoliad yn y gorllewin, mae'r traethlinau hardd hyn yn aml yn frith o wastraff plastig.
Does dim dwywaith y bydd rhywfaint o’r plastig wedi’i ollwng gan ymwelwyr, ond mae’r mwyafrif helaeth wedi teithio miloedd o filltiroedd ar y môr cyn cael ei ysgubo i’r lan.
Eisoes mae nifer o sefydliadau gwych, megis Surfers Against Sewage (SAS) a Cadwch Gymru’n Daclus, ynghyd â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn trefnu digwyddiadau enfawr i lanhau traethau mewn ymgais i gadw i fyny â’r llygredd plastig a olchir i’r lan bob llanw, ond gallwch chithau hefyd ymuno.
Os hoffech wirfoddoli eich amser, mae’r grŵp Glanhau Traethau Sir Benfro ar Facebook yn rhannu gwybodaeth am y sesiynau glanhau traethau a gynhelir yn Sir Benfro. Os na allwch fynychu sesiwn sydd wedi'i drefnu, gallwch bob amser gynnal eich sesiwn glanhau traeth eich hun. P'un a ydych yn benderfynol o lanhau'r traeth cyfan neu ond yn codi eitemau wrth fynd ar daith gerdded gyda’r teulu, mae pob tamaid o blastig a gesglir yn helpu yn yr ymgyrch tuag at foroedd glanach.

Frainslake
5 Awgrym ar gyfer Glanhau Traeth yn Llwyddiannus
- Sicrhau beth yw oriau’r llanw - Yr amser gorau ar gyfer glanhau traeth yw wrth i'r llanw fynd allan. Mae hyn yn rhoi amser i chi glirio'r sbwriel sy'n cael ei adael ar ôl ac yn sicrhau na chewch eich ynysu pan fydd y llanw’n troi, felly defnyddiwch y Tabl Llanw i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i ddechrau.
- Mynd â chyflenwadau - Gwisgwch fenig amddiffynnol a chael digon o fagiau addas fel y gallwch gasglu cymaint â phosib. Bydd dyfais codi sbwriel hefyd yn gwneud y gwaith yn haws.
- Cadw’n ddiogel - Gall casglu sbwriel fod yn beryglus, felly cadwch olwg am ddarnau o blastig, metel a gwydr sydd wedi torri, yn ogystal ag eitemau miniog fel llinellau pysgota gyda bachau ynghlwm wrthynt.
- Gwaredu sbwriel yn gywir - Os na fydd yr hyn a gasglwch yn ffitio mewn bin sbwriel arferol, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro fel y gallant ei gasglu, neu'n well byth, ewch ag ef adref a'i ddidoli gyda'ch ailgylchu cartref eich hun.
- Bywyd gwyllt ar y traeth - Peidiwch byth â chael gwared ar ddeunydd organig fel gwymon, ac os gwelwch unrhyw fywyd gwyllt mewn trallod neu farw, fel adar neu forloi, rhowch wybod ar unwaith i'r sefydliad cywir.

Protocol for Coastal Wildlife in distress
Gwnewch Eich Rhan i Leihau'r Defnydd o Blastig Untro
Mae glanhau traeth wrth ymweld â Sir Benfro yn ffordd wych o helpu’r gymuned leol, ond os dymunwch wneud hyd yn oed mwy, mae Surfers Against Sewage wedi creu rhwydwaith Cymunedau Di-blastig sydd â’r nod o leihau faint o blastig sy’n cyrraedd ein moroedd drwy eich helpu i leihau'r defnydd o blastig untro yn eich bywyd bob dydd lle bynnag yr ydych yn byw.

