
Pentref bychan glan y môr gyda thraeth creigiog, rhwng Saundersfoot ac Amroth, yw Wiseman’s Bridge. Cysylltir y pentref â Saundersfoot gan gyfres o dwneli, olion y rheilffordd gul oedd yn arfer cludo glo o’r pyllau glo lleol i Harbwr Saundersfoot.
Mae’r hen reilffordd neu dramffordd yn arwain i fyny’r dyffryn coediog tuag at adfail hanesyddol Gwaith Haearn Stepaside. Cafodd y dramffordd arwyneb newydd yn ddiweddar, ac mae’n llwybr gwych i blant feicio’r holl ffordd i Saundersfoot heb fynd ar y ffordd fawr – ac mae’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn hefyd. Mae’r enw Saesneg ar y dyffryn yn agos iawn at y gwir, ‘Pleasant Valley’.
Mae gwasanaeth bws rhif 351 yn cysylltu Amroth, Wiseman’s bridge, Saundersfoot, a Dinbych-y-pysgod. Mae’r orsaf rheilffordd agosaf yn Saundersfoot, ond mae hi’n bell o ganol y pentref a does dim cyfleusterau na thacsis yno. Y syniad gorau yw dod oddi ar y trên yn Ninbych-y-pysgod.
Yr unig le i barcio yw ar ymyl y ffordd uwchben y traeth, a gall fod yn brysur iawn yno yn ystod gwyliau’r haf.
Rhwng y 14eg ganrif a’r 19eg roedd y dyffryn yma’n ferw o ddiwydiant gan ei fod yn rhan bwysig o faes glo Sir Benfro. Mae’n anodd dychmygu’r prysurdeb hwnnw bellach, ond yn ei hanterth roedd 12 glofa yn yr ardal, er nad oes llawer o olion o hynny oni bai am Waith Haearn Stepaside a thwneli’r hen reilffordd erbyn heddiw. Yn Wisemans’s Bridge cynhaliwyd yr ymarferion ar gyfer glaniadau D-Day hefyd, a bu Winston Churchill yno’n goruchwylio.
Wrth ddilyn llwybr yr arfordir o Wisemans Bridge, cyn cyrraedd y twnnel cyntaf byddwch yn gweld sawl ogof gaeedig lle’r gai’r glo ei gloddio o’r clogwyn. Bellach, mae’r ogofâu’n gynefinoedd pwysig i ystlumod. Os edrychwch chi dros y canllaw ar yr ochr arall, fe welwch nodwedd difyr yn y graig ar y traeth – plyg blaendor.

Treath Wiseman's Bridge