
Mae’r pentref hanesyddol hwn ar arfordir gogleddol Sir Benfro, yn agos i Dyddewi, yn lle braf iawn os ydych am osgoi rhannau mwy twristaidd yr ardal. Bu Cerys Matthews, prif leisydd y grŵp Catatonia, yn byw yma pan yn ifanc.
Mae traeth llanw isel o dywod a cherrig mân islaw’r felin, sy’n lle gwych ar gyfer pyllau glan môr, ond ddim wir ar gyfer nofio.
Mae Gwasanaeth Bws Arfordirol Gwibiwr Strwmbwl yn cysylltu Tre-fin gyda Phorthgain, Tyddewi, Mathri, Pen-caer ac Abergwaun.
Mae pobl wedi byw yn Nhre-fin ers canrifoedd ac roedd y pentref yn gysylltiedig ag arglwyddiaeth eglwysig Dewi Sant.
Uwchben y traeth mae nifer o hen fythynnod a gallwch weld olion hen felin sy’n dyddio o’r 15fed ganrif. Ysgrifennodd Crwys gerdd enwog, Melin Trefin, am yr ardal. Ganwyd bardd enwog arall, Edgar Phillips, neu Trefin, yma hefyd, a daeth yn Archdderwydd yn 1960. Yn y gorffennol arferai’r trigolion ethol maer ffug bob blwyddyn.

Tre-fin