Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Dinbych-y-pysgod a Phenalun

Mae’n debyg mai Dinbych-y-pysgod yw tref glan môr mwyaf eiconig Cymru, sy’n cystadlu’n ffafriol iawn â mannau fel Mevagissey a Polperro o ran ei swyn a’i hyfrydwch.

Felly beth am i chi ymweld â’r dre hyfryd hon, a threulio 48 awr yn Ninbych-y-pysgod – byddwch yn siwr o ddychwelyd dro ar ôl tro.

Mae’n hawdd cyrraedd Dinbych-y-pysgod. Mae gorsaf rheilffordd gyda gwasanaeth bob dwy awr o Abertawe a phorthladd yn Noc Penfro. Mae gwasanaethau bysiau ar hyd yr arfordir deheuol ac i Hwlffordd a Chilgeti.

Mae cymuned hwylio a physgota gref yn harbwr Dinbych-y-pysgod, a gallwch ddal cwch oddi yno i Ynys Bŷr neu i fynd ar dripiau pysgota neu bleser.

Y Normaniaid sefydlodd y dref gaerog yma, ac mae’r rhan fwyaf o’r muriau’n dal i sefyll o gwmpas yr hen dref. Adeiladwyd castell i amddiffyn Dinbych-y-pysgod ar Castle Hill, ond dim ond un tŵr bychan sydd ar ôl ohono bellach. O fewn muriau’r dref, mae’r strydoedd cul a’r tai canoloesol yn ddigon i hudo unrhyw ymwelydd.

Yn ystod y cyfnod Sioraidd a Fictoraidd, daeth Dinbych-y-pysgod yn dref wyliau boblogaidd iawn. Mae’r ddwy rodfa o boptu’r hen dref, yr Esplanade a’r Norton, yn cyfrannu at olwg bensaernïol arbennig y dref.

Mae golygfa enwocaf y dref o’r Norton, y ffordd sy’n dilyn y clogwyni uwchben traeth y gogledd. Mae sawl gwesty da yma.

Eithaf bychan oedd y datblygiad Fictorianaidd ar yr ochr orllewinol y tu hwnt i furiau’r dref, ac felly nid yw wedi amharu’n ormodol ar awyrgylch y dref. Mae’r gwestai mawrion ar yr Esplanade yn wynebu Ynys Bŷr dros draeth y dre. Yn y strydoedd cyfagos ceir digonedd o leoedd gwely a brecwast, tai llety, a fflatiau hunanarlwyo.

Mae canol Dinbych-y-pysgod yn ddrysfa o strydoedd cul. Yn ystod y dydd yn yr haf ni chaniateir ceir yno, sydd felly’n galluogi’r bariau a’r bwytai i osod cadeiriau ar y stryd. Mae sawl siop ddifyr a gwahanol yno hefyd. Cafodd Dinbych-y-pysgod ei dynodi’n ardal gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 1972.

Dinbych-y-pysgod a Phenalun

Dinbych-y-pysgod a Phenalun | Visit Pembrokeshire