
Mae pentref bach tlws Ystangbwll ychydig filltiroedd i’r de o Benfro, rhwng Freshwater East a Bosherston. Er bod bythynnod tlws a thŷ tafarn yma, yr hyn sy’n denu pobl yma ar y cyfan yw Ystâd Ystangbwll, Cei Ystangbwll, a thraeth Barafundle.
Mae’r orsaf rheilffordd agosaf ym Mhenfro, sy’n cysylltu gyda gwasanaeth Gwibfws yr Arfordir. Mae’r bws yma’n cysylltu cymaint o fannau ar yr arfordir ag sy’n bosibl, gan gynnwys Ystangbwll a Chei Ystangbwll. Crëwyd y gwasanaeth ar gyfer cerddwyr a syrffwyr, gydag un gwasanaeth yn y bore ac un yn y prynhawn.
Roedd Ystâd Ystangbwll yn un o ystadau gwledig crand y teulu Cawdor, teulu o Gastell Cawdor yn Nairn, yr Alban, yn wreiddiol. Daeth Ystangbwll i’w meddiant pan briododd Syr Alexander Campbell, mab hynaf yr Arglwydd Cawdor, etifedd ystâd Ystangbwll, Elizabeth Lort. Un o’u disgynyddion, yr Arglwydd Cawdor o Gastell Martin, arweiniodd yr ymosodiad ar y llu Ffrengig a laniodd ger Abergwaun yn 1797. Dyma’r ymosodiad diwethaf ar dir Prydain, ac mae tapestri 100 troedfedd o hyd i goffáu’r digwyddiad i’w weld yn Neuadd y Dref, Abergwaun.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd meddianwyd rhan helaeth o’r ystâd gan y fyddin er mwyn creu maes hyfforddi i filwyr, gan beri i’r teulu benderfynu fod parhau i gynnal yr ystâd yn anymarferol a dychwelyd i’w hystadau yn yr Alban. Yn sgil trethi llym ar y plasty gwag, cafodd ei ddymchwel yn 1963, gan adael ond ychydig adeiladau, y parcdir, a’r pyllau lili ar ôl.
Un agwedd ddifyr o reolaeth teulu Cawdor o’r ystad oedd eu bod yn frwd iawn o blaid sobrwydd ymhlith eu tenantiaid, a hyd at eu hymadawiad yn y 1960au, yr unig fannau ar yr ystad lle gellid cael alcohol oedd mewn tai potes di-drwydded. Wrth gwrs, roedd hyn yn newyddion gwych i’r sefydliadau oedd y tu hwnt i ffiniau’r ystad, gan ei fod yn sicrhau busnes cyson gan yr yfwyr ymysg tenantiaid teulu Cawdor. Dyna un o’r rhesymau fod pedwar tŷ tafarn yn ac o gwmpas pentref Hundleton, i gyd ar dir ystad llai dirwestol ei naws, Orielton. Mae un ohonynt, y Speculation Inn yn Hundleton, yn dal i fod ar agor ac yn dafarn fywiog sy’n gwerthu cwrw Felin-foel.
Rhoddwyd gweddillion yr ystad i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac adeiladwyd Canolfan Ystangbwll yno, sy’n cynnwys canolfan astudio ar gyfer ysgolion, byncws newydd, bythynnod hunanarlwyo, a chyfleusterau helaeth ar gyfer grwpiau a chynadleddau, sy’n cael eu haddasu ar gyfer ymwelwyr sydd ag anableddau.

Ystangbwll