Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Tyddewi

Mae Tyddewi wedi’i enwi ar ôl nawdd sant Cymru, Dewi Sant. Hon yw’r ddinas leiaf ym Mhrydain, gyda phoblogaeth o ychydig dros 1600 o bobl. Cafodd statws dinas yn 1995, ond mae wedi bodoli ers y 5ed ganrif, a bu Dewi ei hun yn byw yma.

Cafodd Tyddewi ei dynodi’n ardal gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 1972.

Mae rhai o’r golygfeydd arfordirol gorau yn Sir Benfro i’w cael o Benrhyn Dewi. Dyma galon y Parc Cenedlaethol ac mae’n lle gwych i gerdded Llwybr yr Arfordir.

Abergwaun a Hwlffordd yw’r gorsafoedd rheilffordd agosaf. Mae sawl bws yn mynd i Dyddewi bob dydd.

Mae’r Gwibiwr Pâl yn mynd ar hyd arfordir Bae San Ffraid, a Gwibiwr Strwmbwl yn cysylltu sawl man rhwng Tyddewi ac Abergwaun. Mae’r ddau wasanaeth yn wych ar gyfer y rhai sy’n cerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro. Fel rheol, bydd y bysiau’n mynd yn y bore er mwyn eich gollwng ac yna’n dychwelyd i’ch nôl chi yn y prynhawn.

Adeiladwyd Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn y 12fed Ganrif, er bod sawl eglwys wedi bod ar y safle cyn hynny.

Yn anffodus, gan ei fod wrth y môr, roedd y Llychlynwyr yn dueddol o ymosod ar Dyddewi a dinistriwyd nifer o’r strwythurau hŷn.

Bellach, mae Tyddewi’n ddinas sy’n llawn cymeriad, ac yn agos at galon pawb sy’n adnabod y lle.

Tyddewi

Tyddewi | Visit Pembrokeshire