Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Saundersfoot

Pentref glan y môr bychan rhwng Dinbych-y-pysgod ac Amroth yw Saundersfoot. Mae’n llai o faint o lawer na Dinbych-y-pysgod, a chanddo ei gymeriad a’i nodweddion ei hun.

Mewn sawl ffordd, mae Saundersfoot yn lleoliad mwy hygyrch hefyd: mae’r traeth yn llydan a thywodlyd ac yn meddu ar faner las.

Mae digonedd o leoedd i fwyta ac yfed o gwmpas yr harbwr, ac mae digon o le i barcio yn agos i’r traeth – yn ymyl yr harbwr yn ogystal ag ym maes parcio Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sydd y tu ôl i’r siopau. Cafodd Saundersfoot ei ddynodi’n ardal gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 1995.

Mae gorsaf drenau o’r enw ‘Saundersfoot’, ond mae tua milltir y tu allan i’r pentref. Does dim cyfleusterau o gwbl yno ac felly bydd rhaid i chi drefn i rywun ddod i’ch nôl chi oddi yno. Os byddwch angen bws neu dacsi, dewch oddi ar y trên yng ngorsaf Dinbych-y-pysgod. Mae gwasanaethau bws da i fynd a chi i mewn i Ddinbych-y-pysgod neu ymhellach ar hyd yr arfordir i Amroth a Phendine.

Adeiladwyd porthladd Saundersfoot yn wreiddiol er mwyn cludo glo o ardal Stepaside. Does dim ar ôl o’r pyllau bellach, ond mae un o rannau mwyaf difyr Llwybr Arfordir Sir Benfro wedi’i greu o hen lwybr y tram a gludai’r glo i’r harbwr.

Wrth gerdded tua’r dwyrain o harbwr Saundersfoot, byddwch yn cyrraedd adeilad o’r enw The Barbeque. Dyma hen adeilad swyddfa pwll glo Bonville’s Court. Ewch ymlaen tua’r dwyrain ar hyd y Strand a byddwch yn mynd trwy dwnnel byr i draeth Coppet Hall.

Ar ochr draw’r traeth mae dau dwnnel arall a llwybr llydan, gwastad sy’n berffaith ar gyfer cadeiriau olwyn a choetsis. Os ydych eisiau dal i fynd ar hyd yr hen dramffordd, bydd yn gwyro oddi wrth y môr ac yn mynd trwy’r coed tuag at Stepaside, lle gallwch fynd i weld yr hen waith haearn. Mae’r llwybr wedi’i adnewyddu’n ddiweddar, ac mae’n berffaith ar gyfer cerdded neu feicio.

Saundersfoot