Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Nolton a Nolton Haven

Mae Nolton a Nolton Haven ym Mae Sain Ffraid ar arfordir gorllewinol Sir Benfro. Cymuned ffermio fechan yw Nolton.

Gellir mynd o Nolton Haven i Dyddewi a phentrefi Bae Sain Ffraid ar fws 400: y Pâl Gwibio.

Ar un adeg roedd y pentrefi hardd hyn yn ganolbwynt menter lofaol ffyniannus, a rhwng 1850 a 1905 roedd nifer o byllau glo lleol yn cloddio gwythiennau glo caled a redai allan o dan y môr. Roedd Nolton Haven yn borthladd glo bychan a fu’n allforio glo o’r canoloesoedd ymlaen. Roedd tramffordd hir yn mynd o’r hafan, dros y bryn i Lofa Trefran ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Ar y traeth, mae ffosiliau planhigion i’w gweld yn y creigiau mawr a’r cerrig ar waelod y clogwyni ac, mewn rhai mannau, gellir gweld gwythiennau glo caled.

Uwchben y traeth mae Capel Annibynwyr Nolton Haven, capel bychan a adeiladwyd o garreg lwyd yn 1858. Gwnaed newidiadau mewnol ym 1907 ac fe’i hadnewyddwyd ym 1923. Adeiladwyd y capel mewn dull Romanesg gyda’r fynedfa ar y talcen, dau lawr a ffenestri tal gyda phennau crynion. Mae Nolton Haven bellach yn adeilad cofrestredig Gradd 2 am ei ffasâd, sy’n uchelgeisiol yn bensaernïol, a’r defnydd o dywodfaen Nolton.

Nolton a Nolton Haven