
Clwstwr bach o adeiladau ar ochr ogleddol traeth Niwgwl yw pentref Niwgwl.
Sôn am y traeth, fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o bobl wrth sôn am Niwgwl. Mae hwn ynddarnllydan, gwastad, hyfryd o dywod, ddwyfilltir o hyd, gyda llethr anferth o gerrig mân y tu ôl iddo.
Mae’r Garn yn bentref bach sydd i mewn i’r tir o Niwgwl. Y castell yw nodwedd amlycaf y pentref.
Gallwch gyrraedd Tyddewi a Hwlffordd o Niwgwl ar fws yr arfordir, 400: y Pâl Gwibio
Pan adeiladwyd Castell y Garn roedd yn un o grŵp o gadarnleoedd ar y ffin a amddiffynnai ran o Gymru a oedd wedi’i Seisnigeiddio rhag y Cymry annibynnol tua’r gogledd, gan warchod yr ymgartrefwyr o Fflandrys oedd wedi meddiannu’r ardal. Roedd hefyd yn fan gwylio ar gyfer bae Sain Ffraid, er mwyn amddiffyn yr ardal rhag ymosodiad o’r môr.
Y person cyntaf i fyw yn y castell, y gwyddom amdano, oedd marchog Normanaidd o’r enw Adam de Rupe. Roedd ei enw’n deillio, mae’n debyg, o’r graig lle adeiladwyd y castell, gan mai “de Rupe” oedd y Lladin am “o’r graig”. Cyn hir fodd bynnag fe’i newidiwyd i’r enw Normanaidd (neu Ffrengig) “de la Roche”.
Ym 1644, rhoddodd y Brenin Siarl ariswn yn nifer o’r cestyll yn Ne Cymru, gan gynnwys castell y Garn, o dan orchymyn y Capten Francis Edwards o Summerhill.
Fis Chwefror 1644, ymosodwyd ar y castell gan lu Cromwell dan arweiniad y Cyrnol Roland Laugharne. Wedi cyrch ffyrnig, ildiwyd y castell ar Chwefror 17eg, wedi iddo gael ei ddifrodi’n ddrwg gan ganonau a thân.
Heddiw, mae’r castell wedi’i atgyweirio i safon uchel er mwyn darparu llety moethus

Niwgwl