
Mae Arberth yn dref farchnad fach hyfryd yn nwyrain Sir Benfro. Mae adeiladau Edwardaidd a Sioraidd amryliw o boptu stryd fawr sy’n enwog am ei siopau hyfryd.
Mae siopau annibynnol yma sy’n gwerthu bob math o nwyddau chwaethus, boed yn gelfyddyd gain neu’n fwydydd da, ochr yn ochr â siopau vintage a siopau hen bethau. A phan fyddwch chi angen hoe fach, mae digonedd o gaffis, tafarnau a bwytai ardderchog ar gael.
Darllenwch ein syniadau ar gyfer pethau i’w gwneud pan fyddwch yn Arberth – – 48 awr yn Arberth.
Mae gorsaf rheilffordd tua milltir y tu allan i dref Arberth ac mae cysylltiadau da â Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod, Aberteifi a Chaerfyrddin
Mae’r dref wedi tyfu o gwmpas waliau’r castell cerrig ond mae’r enw’n hŷn na’r castell. Arberth oedd enw’r ardal (neu’r cwmwd) cyn i’r Normaniaid gyrraedd ac mae gwreiddiau Celtaidd yr ardal i’w gweld yn chwedlau’r Mabinogi, straeon a gofnodwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ond a ddeilliai o’r hen draddodiad llafar o adrodd straeon. Mae dwy o geinciau’r Mabinogi wedi eu lleoli yn Arberth, safle llys Pwyll, Pendefig Dyfed, yn ôl y sôn

Arberth