Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Martlerwy, Landshipping a Lawrenni

Mae glan ddwyreiniol rhannau uchaf y Daugleddau’n dawel a gwledig gyda nifer o bentrefi cysglyd yn swatio yng nghanol coedwigoedd derw a chaeau.

Er ei fod i mewn yn y tir, mae’r rhan fwyaf o’r ardal hon yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Yn nyddiau’r Tuduriaid, roedd y pentref yn fan masnachu gyda thua 12 cartref. Byddai nifer o lwythi’n cyrraedd ar gychod o Gei Cresswell a Landshipping ac yn cael eu hail-lwytho yn Lawrenni.

Sefydlwyd y Clwb Criced ym 1894/95, ond daeth y criced i ben yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafwyd yr ymdrech gyntaf i ailsefydlu’r tîm ym 1918 pan deithiod y tîm i Cosheston ac roedd pawb allan am 13!

Sefydlwyd canolfan awyr forol yng Nghei Lawrenni yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daeth yn gartref parhaol i Sgwadron 764 a’i fflyd o awyrennau môr ‘Walrus’, gyda hyd at 15 awyren weithiau’n cael eu hangori ar yr afon rhwng Lawrenni a Choedcanlas.

Lawrenni

Martlerwy, Landshipping a Lawrenni | Visit Pembrokeshire