
Mae penrhyn Marloes ar ochr orllewinol Sir Benfro ym mhen deheuol Bae Sain Ffraid. Mae Dale ar ochr ddeheuol y penrhyn a Marloes ar yr ochr ogleddol.
Mae Dale yn swatio mewn bae cysgodol tra bod Marloes mewn lleoliad mwy gwyllt ac agored.
Mae Marloes ar lwybr wasanaeth bws arfordirol 400: Y Pâl Gwibio, sy’n cysylltu’r pentrefi o Sain Ffraid i Dyddewi. Mae Dale ar lwybr gwasanaeth 315 sy’n ei gysylltu ag Aberdaugleddau a Hwlffordd ac mae gorsaf reilffordd yn y ddwy dref.
Mae nifer o safleoedd cynhanesyddol wedi eu darganfod yn yr ardal. Darganfuwyd fflintiau ar hyd clogwyni’r gorllewin. Ymgartrefodd pobl yma a dechrau ffermio yn ystod y cyfnod Neolithig (3,500 – 2,000 CC); darganfuwyd offer fflint mwy soffistigedig o’r cyfnod hwn mewn nifer o safleoedd ger Fferm Brunt a gallwch eu gweld yn amgueddfa Dinbych-y-pysgod.
Yn lleoliad amlwg wrth geg Aber y Ddaugleddau, roedd gan Dale swyddogaeth amddiffynnol am nifer o ganrifoedd. Ar 7 Awst 1485 glaniodd Harri Tudur a’i luoedd ym Mill Bay. Gorymdeithion nhw heb i unrhyw un eu rhwystro i Gaerlŷr lle llwyddodd Harri i orchfygu Richard III a hawlio’r frenhiniaeth.
Roedd Dale yn ganolfan gynhyrchu cwrw yn y 18fed ganrif ac roedd yn allforio cwrw i Lerpwl. Roedd llwythi cyffredinol hefyd yn cael eu cludo fel rhan o’r fasnach arfordirol. Fodd bynnag, y prif drafnidiaeth yn ystod y 18fed ganrif, y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif oedd cludo carreg galch, glo a glo mân (cymysgedd o lwch glo a chlai) i’r traethau ble’r oedd odynnau’n llosgi calch ar gyfer y ffermydd lleol.
Mae’r traethau graean a’r cildraethau creigiog o gwmpas Marloes a Gateholm yn enwog am nifer o longddrylliadau hanesyddol a achoswyd gan y moroedd peryglus o gwmpas Ynys Sgogwm, ychydig oddi ar yr arfordir. Mae Traeth Albion wedi ei enwi ar ôl llong stêm yr Albion a darodd graig yn Swnt Jack ar 18 Ebrill 1837. Gallodd y capten arwain ei long i’r tywod cyfagos a llwyddwyd i achub pawb oedd arni a dod â nhw’n ddiogel i Farloes. Suddodd yr Albion ar y traeth ac fe’i chwalwyd gan stormydd. Ar lanw isel gellir gweld rhannau o’r llong yn y tywod hyd heddiw.

Marloes & Dale