
Mae Maenorbŷr yn bentref glan y môr hyfryd gyda bae tywodlyd ardderchog sy’n boblogaidd gyda syrffwyr, a chastell hardd, canoloesol sy’n edrych dros y bae.
Yma ganwyd Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis) ac roedd y pentref yn ffefryn gyda George Bernard Shaw a Virginia Woolf.
Mae tafarn glyd ac Eglwys Normanaidd ddiddorol yn y pentref. Cafodd Maenorbŷr ei ddynodi’n ardal gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ym 1997.
Mae gwasanaeth bws 349 yn cysylltu Maenorbŷr â Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod ac mae gorsaf reilffordd yn y ddwy dref.
Mae hen, hen hanes i Maenorbŷr ac mae darganfyddiadau archeolegol wedi dyddio arteffactau yn ôl i gyfnodau Mesolithig a Neolithig cynnar, sydd 11,500 o flynyddoedd yn ôl! Y peth mwyaf dramatig i oroesi o’r cyfnod Neolithig yw siambr gladdu neu gromlech King’s Quoit sydd wrth ymyl y llwybr ar y clogwyn ar ochr ddwyreiniol Bae Maenorbŷr.
Derbyniodd y marchog Normanaidd Odo de Barri dir yn negawd olaf yr 11eg ganrif ac adeiladodd neuadd bren ar safle’r castell gan ei hamgylchynu â chloddiau. Ei fab ddechreuodd adeiladu castell carreg Maeorbŷr sydd yma heddiw. Adeiladwyd tŵr mawr sgwâr ynghyd â neuadd gain ac, erbyn diwedd y 12fed ganrif, roedd yr adeiladau hyn wedi eu hamgáu gan ddau gysylltfur o garreg gyda thyrau a phorthdy cadarn.

Maenorbŷr