
Mae Lydstep yn bentref bychan rhwng Dinbych-y-pysgod a Maenorbŷr yn ne Sir Benfro.
Mae Lydstep ar lwybr gwasanaeth bysiau rhif 349 sy’n cysylltu’r pentref â Dinbych-y-pysgod a Hwlffordd.
Yng nghanol y pentref mae gweddillion Palas Lydstep, tŷ neuadd o ddiwedd yr oesoedd canol, sydd â chladdgell fwaog. Bellach nid oes to arno ac mae’n adfail rhannol, ond mae wedi cael ei atgyweirio gymaint â phosibl. Fe ymddengys bod Palas Lydstep wedi cael ei ddefnyddio fel llys ar gyfer Maenor Maenorbŷr a Phenalun yn ogystal â fel cartref.
Yn ystod y canoloesoedd, mae’n debyg bod y llawr cyntaf yn cynnwys un siambr fawr wedi ei rhannu’n llai gan o leiaf un bwa agored. Ymhlith y newidiadau a wnaed wedi’r oesoedd canol oedd rhannu’r llawr cyntaf yn dair ystafell.
Wrth gloddio’r adeilad darganfuwyd pen bwyell garreg neolithig yn y pridd, ond mae’n debygol bod y pen bwyell wedi dod gyda phridd a gludwyd yno i greu gardd yn ystod y 19eg ganrif.

Lydstep