Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Llanhuadain

Mae Llanhuadain ar ben bryn rhwng Arberth a Hwlffordd. Mae adfeilion Castell Llanhuadain uwchlaw’r pentref.

Tyfodd pentref Llanhuadain o gwmpas y castell, a oedd yn wreiddiol yn gastell mwnt a beili o ddechrau’r 12fed ganrif. Roedd Llanhuadain, a adnabyddwyd fel castell Landsger, ar y llinell ddychmygol a wahanai dde Sir Benfro Normanaidd oddi wrth y llwythi Cymreig yng ngogledd y sir. Mae’n edrych fel castell, ond palas esgob caerog ydyw mewn gwirionedd ac fe’i defnyddiwyd fel palas tan y 16eg ganrif.

Ymhlith ei nodweddion mae cragen fawreddog y porthdy. Mae’r wal allanol ar yr ochr ddeheuol yn eithaf cyfan ac yn cynnwys grisiau modern i’r bylchfuriau er mwyn gallu mwynhau’r golygfeydd godidog. Glaswellt yw’r gorthwr yn bennaf ac mae rhai ystafelloedd a chladdgelloedd rhannol fwaog i chi eu harchwilio.

Llanhuadain

Llanhuadain | Visit Pembrokeshire