
Mae pentref Llandyfái ychydig filltiroedd i’r dwyrain o dref Penfro ar y ffordd i Faenorbŷr. Ar ymyl gogleddol y pentref, mae olion Llys Esgob Llandyfái, un o dri phalas mawreddog gydag amddiffynfeydd oedd yn eiddo i Esgob Tyddewi yn Sir Benfro.
Ac yntau mewn man gwledig braf ychydig filltiroedd i’r dwyrain o dref Penfro, mae’n strwythur sylweddol hyd heddiw.
Mae gwasanaeth bws lleol, 349 yn cysylltu Llandyfái a’r pentrefi cyfagos â Dinbych-y-pysgod a Hwlffordd. Mae gorsaf rheilffordd hefyd yn Llandyfái.
Yn ôl Gerallt Gymro, Llandyfái oedd canolfan esgobion cyn-Normanaidd olaf Cymru. Cafodd y safle ei ymestyn a’i addurno’n sylweddol gan esgobion Normanaidd diweddarach. Ychwanegwyd yr Hen Neuadd, Neuadd y Gorllewin a’r Neuadd Fawr.
Ar ôl y diwygiad, aeth Llandyfái i ddwylo seciwlar Iarll Essex a’i ddisgynyddion, ond buan yr aeth â’i ben iddo.
Yn fwy diweddar, daeth y palas i ddwylo CADW, sydd wedi’i adfer.

Llandyfái