Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Cilgeti a Begeli

Mae Cilgeti a Begeli yn bentrefi rhwng Arberth a Saundersfoot. Mae Begeli’n bentref hir ar briffordd yr A478 ac yma mae sw a pharc antur enwog Folly Farm Adventure Park a Zoo.

Tyfodd Cilgeti o gwmpas y rheilffordd, gyda’r orsaf yn agor yno ym 1866.

Gwasanaethir Cilgeti gan wasanaeth bws lleol, 352 i Ddinbych-y-pysgod a gwasanaeth 381 i Hwlffordd. Mae gorsaf rheilffordd yng Nghilgeti hefyd.

Mae gan Begeli a Chilgeti hanes hir o fwyngloddio; ym 1581, am fod cynifer o weithfeydd ym Megeli ger y briffordd o Ddinbych-y-pysgod i Hwlffordd, ni fentrai unrhyw un basio’r ffordd honno mewn cerbyd na chert rhag ofn i’r ffordd suddo!

Ym 1834, agorwyd y rheilffordd i gludo’r glo o byllau Begeli i lawr i Saundersfoot.

Cilgeti a Begeli | Visit Pembrokeshire