Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Aberllydan

Mae Aberllydan yn lle delfrydol ar gyfer gwyliau glan y môr traddodiadol, gyda thraeth tywodlyd anferth (pan fydd y llanw’n isel) a lle diogel i nofio.

Mae’n lleoliad da ar gyfer crwydro’r ardal gan ei fod yn agos i Dyddewi ac arfordir Gogledd Sir Benfro yn ogystal â Hwlffordd ac Aberdaugleddau yn y de.

Mae Aberllydan ar lwybr gwasanaeth y Pâl Gwibio, rhif 400, sy’n cysylltu holl arfordir bae Sain Ffraid o Dyddewi i Martins Haven

Nid ydym yn gwybod fawr iawn am darddiad y pentref ond y mae’n adnabyddus fel pentref glan y môr ers yr 1800au. Roedd bad achub RNLI yn Aber Bach o 1882 hyd 1921. Ym 1967, ail-agorwyd yr orsaf a newidiwyd ei henw i orsaf i Aber Bach ac Aberllydan.

Aberllydan

Aberllydan | Visit Pembrokeshire