Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Bosherston

Pentref bychan iawn, dim ond 5 milltir o Benfro yw Bosherston, ond dyma ganolbwynt bywyd dringo Sir Benfro.

Drwy’r pentref, gallwch gyrraedd Llynnoedd Bosherston yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sef tri dyffryn calchfaen wedi’u boddi, sydd wedi’u gorchuddio â lilis ym mis Mehefin ac yn llawn bywyd gwyllt, ynghyd â thraethau euraidd Traeth De Aberllydan a’i Church Rock eiconig.

Mae Bosherston ar lwybr y Gwibfws yr Arfordir, gwasanaeth rhif 388, sy’n cysylltu pentrefi penrhyn Castell Martin â Phenfro, sydd hefyd â gorsaf rheilffordd.

Mae’r pentref wedi’i adeiladu o gwmpas yr eglwys leol sydd wedi ei chysegru i Sant Mihangel a’r Holl Angylion. Cafodd ei hadeiladu ar ddiwedd y 1200au ar sylfeini man addoli cynharach.

Heblaw am ffermwyr, gweithwyr amaethyddol a gwylwyr y glannau, ym 1851 roedd y pentrefwyr yn cynnwys chwarelwyr, athrawes, clerigwr, gwas, saer coed a golchyddes. Pentref eithaf hunangynhaliol felly!

Ym 1938, prynwyd bron i chwarter o’r plwyf, i’r gorllewin, er mwyn creu rhan o ystâd saethu’r Corfflu Arfog Brenhinol ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn a phrynwyd rhagor o dir i’r de o’r pentref ym 1940. Y tir yma yw maes tanio Castell Martin heddiw.

Bosherston

Bosherston | Visit Pembrokeshire