Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Porthgain

Pentref bychan ar arfordir gogleddol Penrhyn Tyddewi yw Porthgain.

Ar un adeg, roedd yn harbwr masnachol bychan yn allforio carreg o’r chwarel gyfagos, ond bellach mae Porthgain yn ganolfan boblogaidd gyda thwristiaid, diolch i’r dafarn wych, bwyty a chaffi arddechog ac orielau celf arbennig. Mae hyn, ynghyd â lleoliad anhygoel Porthgain yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn ei wneud yn lle diguro.

Cafodd yr harbwr ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer ffilmio’r comedi ‘Their Finest’ gyda Gemma Arterton, Bill Nighy a Sam Claflin yn 2017. Darllenwch ragor am leoliadau ffilmio Sir Benfro.

Mae Porthgain yn lle perffaith i ymweld ag ef os ydych ar wyliau byr yn Nhyddewi, gan nad yw ond 7 milltir o’r ddinas.

Mae Gwasanaeth Bws Arfordirol Gwibiwr Strwmbwl yn cysylltu Porthgain â Thyddewi ac Abergwaun a’r holl fannau hygyrch rhyngddynt ar yr arfordir. Mae’r amserlen wedi ei chynllunio gan ystyried cerddwyr, ac mae modd i chi gael eich gollwng yn y bore a’ch casglu yn y prynhawn.

O tua 1850 ymlaen roedd llechi, wedyn brics, ac yna gwenithfaen, yn cael eu hallforio o’r harbwr. Byddai’r wenithfaen, wedi’i malu, yn cael ei thywallt o’r hoperi brics anferth a adeiladwyd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, yn syth i gychod bach ar hyd harbwr Porthgain.

Gallwch weld y strwythurau hyn, ynghyd â rhai eraill oedd ynghlwm â’r diwydiant llechi cynharach, gan gynnwys odyn galch, yr harbwr a thŷ’r peilot, ym Mhorthgain hyd heddiw. Roedd llechi hefyd yn cael eu cloddio yn Abereiddi a’u cludo ar hyd y dramffordd i Borthgain ar gyfer eu hallforio. Daeth mwyngloddio i ben yma yn y 1930au.

Porthgain

Porthgain | Visit Pembrokeshire