Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Porth Mawr i Dre-fin

Porth Mawr i Dre-fin

Llwybr gwyllt a garw dros rai o’r creigiau hynaf ym Mhrydain, sy’n dyddio o’r cyfnod cyn-Gambriaidd.

Between Whitesands and Trefin

Mae olion hanesyddol yn britho’r rhan hon o Lwybr yr Arfordir. Ar gopa Carn Llidi, uwchben traeth Porth Mawr, mae adfeilion gorsaf radar o’r Ail Ryfel Byd ac ar Bentir Dewi islaw, mae cromlech neolithig Coetan Arthur.

Yn Abereiddi fe welwch olion chwarel lechi o’r enw’r Shinc, sy’n cael ei liw o adlewyrchiad glas y llechi. Mae’n lle poblogaidd gydag arfordirwyr, ac maent yn aml i’w gweld yn neidio oddi ar y clogwyni ar ochr ogleddol y pwll.

Wrth nesáu at bentref bach Porthgain, byddwch yn sicr o sylwi ar yr hopranau enfawr o frics sydd ar yr harbwr. Adeiladwyd y rhain ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg, ac maent bellach yn Henebion Cofrestredig.

Data llwybrau:
11 milltir
200 ft
Glaswellt a Thywod
Anodd

Lleoliad A

St Davids, Haverfordwest, SA62 6PS
51.899013, -5.293425
smuggled.sample.ensemble
Mapiau Google

Lleoliad B

Trefin, Haverfordwest, SA62 5BA
51.947623, -5.154804
bedspread.taxed.facelift
Mapiau Google

Gwybodaeth Allweddol

Route:
  • O’r caffi ym mae Porth Mawr, ewch i’r gogledd tuag at Benmaen Dewi
  • Os yw amser yn caniatáu, trowch i’r dde er mwyn dringo Carn Llidi, mae golygfeydd gwych i’w cael oddi yno
  • Ewch yn ôl i lawr yr un ffordd, ac archwiliwch adfeilion caer o’r Oes Haearn sydd ar y penrhyn, a chromlech Coetan Arthur
  • Ewch ar hyd y clogwynni tua’r dwyrain nes cyrraedd y ffordd sy’n arwain tuag at Fae Abereiddi
  • Ar yr ochr draw ceir olion chwarel lechi a rhes o fythynnod chwarelwyr (toiledau yma)
  • Y Shinc yw’r enw ar y chwarel gron hon sy’n boblogaidd iawn gydag arfordirwyr a chaiacwyr ers iddi gael ei boddi gan y môr
  • Heibio’r chwarel, a daw golygfa drawiadol o’r Traeth Llyfn i’r golwg yn y pellter
  • Mae cyfres o risiau dur yn arwain i lawr at y traeth os oes arnoch awydd nofio
  • Wrth i chi nesáu at Borthgain, byddwch yn dechrau sylwi ar fwy o olion gwaith cloddio – chwareli gwenithfaen y tro yma. Arferai’r cerrig gael eu halio dros ymyl y clogwyn, eu malu’n ddarnau a’u rhoi yn yr hopranau enfawr er mwyn eu cludo i’r harbwr
  • Mae ymweld â’r Shed neu’r Sloop Inn fwy neu lai’n orfodol
  • Mae gweddill y daith i Dre-fin yn ddigon syml
  • Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr

Hygyrchedd

Er bod Sir Benfro yn cynnig amrywiaeth o deithiau cerdded golygfaol ar gyfer pob gallu, nid yw pob llwybr yn sicr o fod yn gwbl hygyrch. Os ydych chi neu rywun yn eich grŵp yn defnyddio cadair olwyn, sgwter symudedd, neu bram, mae digon o lwybrau hygyrch, golygfannau, atyniadau a thraethau i'w mwynhau o hyd.

I gael y profiad gorau, cynlluniwch ymlaen llaw drwy wirio canllawiau hygyrchedd neu gysylltu â sefydliadau lleol, fel Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r Prosiect Walkability. Mae llawer o draethau hefyd yn cynnig rampiau concrit a Chadeiriau Olwyn Traeth ar gyfer mynediad haws.

Sicrhewch eich bod yn casglu gwybodaeth berthnasol ymlaen llaw i sicrhau profiad diogel a phleserus i bawb.