Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Trefdraeth i Landudoch

Trefdraeth i Landudoch

Llwybr anodd mewn ardal wyllt.

Between Newport and St Dogmaels

Mae hi’n dipyn o daith, a does dim ffordd hawdd o’i chwblhau heblaw am ei gwneud i gyd ar unwaith. Gallwch ddianc tua hanner ffordd ym Mae Ceibwr, ond bydd angen i chi gerdded oddi yno i Drewyddel er mwyn dal y bws.

Pen Cemaes yw un o’r mannau gorau yng Nghymru i weld lloi morloi yn yr Hydref.

Data llwybrau:
15.5 milltir
200 ft
Glaswellt a Thywod
Anodd

Lleoliad A

Newport, SA42 0NR
52.027873, -4.832462
agreed.junior.splashes
Mapiau Google

Lleoliad B

St Dogmaels, Cardigan, SA43 3GF
52.088842, -4.682464
every.punctual.risen
Mapiau Google

Gwybodaeth Allweddol

Route:
  • O ganol Trefdraeth, ewch i’r gogledd tuag at yr aber
  • Cerddwch i fyny’r afon tuag at y bont. Croeswch, a cherddwch yn ôl tuag at y môr ar yr ochr draw
  • Croeswch y cwrs golff i’r maes parcio, ac oddi yno tua’r trwyn
  • Mae’r llwybr yn eithaf gwastad, ond yn codi’n araf
  • Mae ambell i nodwedd ddifyr yn y clogwyni yma, gan gynnwys bwâu naturiol a Phwll y Wrach. Mae plygiadau sylweddol yn y creigiau yn ardal Ceibwr hefyd
  • Traeth cul o gerrig mân sydd ym Mae Ceibwr. Mae’n lle gwych i gael seibiant bach hanner ffordd. Os ydych wedi cael digon, gallwch gerdded i Drewyddel i ddal bws Roced Poppit
  • Wrth i chi nesáu at Ben Cemaes, byddwch yn gweld sawl traeth nad oes modd eu cyrraedd. Mae dwsinau o forloi llwyd yn geni eu lloi ar y traethau yma rhwng mis Medi a mis Tachwedd
  • Wedi i chi fynd heibio i Ben Cemaes, fe welwch aber Afon Teifi o’ch blaen. Mae hwn yn lle ardderchog i wylio llamhidyddion a dolffiniaid
  • Dilynwch y ffordd darmac i draeth Poppit
  • Pan fydd y llanw’n isel, mae traeth Poppit yn cyrraedd clogwynni’r ochr draw bron
  • Ewch ymlaen ar hyd y ffordd i Landudoch, tuag at y man cychwyn neu orffen swyddogol. Mae’r felin flawd, sy’n gweithio, ac adfeilion yr Abaty werth eu gweld.
  • Mae canolfan ymwelwyr y Cartws yn ychwanegiad newydd gwych rhwng y Felin a’r Abaty. Mae hwn yn lle ardderchog i ymlacio ar ôl eich taith – neu i baratoi cyn cychwyn!
  • Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr

Hygyrchedd

Er bod Sir Benfro yn cynnig amrywiaeth o deithiau cerdded golygfaol ar gyfer pob gallu, nid yw pob llwybr yn sicr o fod yn gwbl hygyrch. Os ydych chi neu rywun yn eich grŵp yn defnyddio cadair olwyn, sgwter symudedd, neu bram, mae digon o lwybrau hygyrch, golygfannau, atyniadau a thraethau i'w mwynhau o hyd.

I gael y profiad gorau, cynlluniwch ymlaen llaw drwy wirio canllawiau hygyrchedd neu gysylltu â sefydliadau lleol, fel Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r Prosiect Walkability. Mae llawer o draethau hefyd yn cynnig rampiau concrit a Chadeiriau Olwyn Traeth ar gyfer mynediad haws.

Sicrhewch eich bod yn casglu gwybodaeth berthnasol ymlaen llaw i sicrhau profiad diogel a phleserus i bawb.