Dyma un draethau syrffio gorau’r wlad ac felly mae’n hynod o boblogaidd. Mae’r tonnau’n torri yn y pen gogleddol ac ar ddyddiau prysur mae canŵyr, syrffwyr a chorff-fyrddwyr yn cystadlu am y tonnau gorau.
Yn y pen yma, mae pentir creigiog i ddringo arno ac mae baeau cysgodol yn y pen deheuol, tawelach.
Ceir cyfyngiadau ar gŵn ar y traeth i gyd rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Cymrwch olwg ar fap o’r traeth.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Parcio ar gyfer 60 o geir uwchlaw’r traeth. Gall parcio fod yn broblem yng nghanol yr haf, ond gallwch ddal y bws gwennol, y Gwibiwr Celtaidd (haf yn unig), o faes parcio Oriel y Parc, ar gyrion Tyddewi, i Borth Mawr.
Cyfleusterau
Toiledau, caffi. Mae gwylwyr y glannau yma rhwng diwedd mis Mai a dechrau mis Medi. Llithrfa.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae’r cyfleusterau agosaf yn ninas Tyddewi. Mae Tyddewi’n ddinas boblogaidd; cafodd statws dinas yn sgil Eglwys Gadeiriol fawreddog Tyddewi a adeiladwyd ar lannau Afon Alun yn y 12fed Ganrif. Mae Canolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol (ar agor drwy’r flwyddyn), nifer o gaffis, tafarndai a bwytai, nifer o siopau diddorol a dewis da o westai, parciau carafanau, gwely a brecwast a hunanarlwyo yn Nhyddewi.
Ramp concrit: 1:5 i 1:4 1⁄2 am 17 metr i'r tywod. Gall newidiadau yn amodau'r traeth, yn enwedig yn y gaeaf, arwain at gris yn ffurfio ar waelod y llithrfa.