
Mae’r traeth yn eithaf cul ar lanw uchel ond pan fydd y llanw allan, daw traeth anferth o dywod euraid i’r golwg.
Ym mhen gogleddol y traeth mae creigiau sy’n berffaith ar gyfer eu dringo ac, os gallwch ddod o hyd iddo, mae hollt yn y clogwyni yn eich arwain i draeth dirgel!
Mae ceryntau cryfion yn y môr oddi ar Orllewin Angle.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Mae 60 lle parcio rhad ac am ddim ym mhen uchaf y traeth.
Cyfleusterau
Llithrfa, mynediad i goets/anabl lawr ramp a llithrfa.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae dwy dafarn yn y pentref sy’n gwneud prydau bwyd, gan gynnwys un yn Angle Point sydd â bwydlen bysgod helaeth. Pan fydd y llanw’n uchel gall y ffordd i’r dafarn fod ar gau; holwch y dafarn os ydych yn bwriadu ymweld.
Llwybr igam-ogam concrit (lefel mewn mannau troi): dim mwy na 1:15 am 20 metr. Yna ramp concrit: 1:6 i 1:51⁄2 am 10 metr.
Dim toiledau hygyrch i gadeiriau olwyn.
Dolen glyw