Mae digon o le ar gyfer teuluoedd ym mhen Dinbych-y-pysgod neu ewch yn eich blaen tua’r dwyrain i gael gweithgareddau traeth mwy egnïol.
Mae’r traeth yn enfawr pan fydd y llanw allan ond mae digon o le hyd yn oed ar lanw uchel. Mae llethr graddol yn y môr a does dim rhwystrau ynddo.
Ceir cyfyngiadau ar gŵn ar y traeth o dan y clogwyni, i’r dwyrain o’r traeth/caffi, rhwng Mai 1af a Medi 30ain.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Mae maes parcio bychan iawn ger Traeth y De ond mae’n llenwi’n gyflym iawn yn yr haf. Mae mwy o le yn y maes parcio preifat oddi ar yr Esplanade ond os byddwch yn cyrraedd ar ôl 11yb yn ystod gwyliau haf yr ysgolion, ewch yn syth i’r maes Parcio a Theithio a defnyddiwch y bws gwennol rhad ac am ddim. Fel arall, parciwch yng ngorsaf Penalun a cherdded ar draws y cwrs golff.
Cyfleusterau
Cadeiriau plygu a fan hufen iâ. Mae gwylwyr y glannau ar ddyletswydd o ddiwedd mis Mai hyd ddechrau mis Medi.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Caffi a thoiledau ar y ffordd i’r traeth. Canolfan groeso, nifer o gaffis, tafarndai a bwytai, nifer o siopau diddorol a dewis da o westai, parciau carafanau, gwely a brecwast a hunanarlwyo yn Ninbych-y-pysgod.
Llwybr pren (gellir ei orchuddio â thywod mewn mannau): 60 metr, lefel gychwynnol, yna'n gynyddol serth i 1:51⁄2.