Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Traeth y Castell Dinbych-y-pysgod

Map
Location Pin

Traeth y Castell Dinbych-y-pysgod

Gallwch gyrraedd y traeth hwn drwy’r harbwr neu i lawr grisiau serth oddi ar y Paragon.

Gall y traeth tywod ardderchog hwn, gyda chlogwyni tu ôl iddo, ddiflannu’n llwyr pan fydd y llanw’n uchel ond mae’n ddiddorol iawn ar lanw’n isel, yn enwedig rhwng Castle Hill ac Ynys Catrin ond, yn anffodus, chewch chi ddim mynd yno.

Mae’r cychod i Ynys Bŷr yn gadael Traeth y Castell ar lanw isel pan fydd yr harbwr yn sych. Ceir gwaharddiad ar gŵn ar gyfer yr holl draeth i’r gorllewin o Ynys Catrin, o Fai 1af i Fedi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn gweld i ba ran o’r traeth y mae hyn yn berthnasol.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Y maes parcio aml lawr yw’r agosaf ond mae’n llenwi’n gyflym yn yr haf. Os byddwch yn cyrraedd ar ôl 11yb yn ystod gwyliau’r ysgol, ewch yn syth i’r parcio a theithio a defnyddio’r bws gwennol.

Cyfleusterau

Gwylwyr y glannau o ddiwedd mis Mehefin hyd ddiwedd mis Medi.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Toiledau, caffi ac amgueddfa/oriel gelf ar Castle Hill. Canolfan groeso, nifer o gaffis, tafarnau a bwytai nifer o siopau diddorol a dewis da o westai, parciau carafanau, gwely a brecwast a hunanarlwyo yn Ninbych-y-pysgod.

Sut i Ddod o Hyd i Ni

Castle Beach, Tenby
51.67189, -4.695428
garlic.stone.then

Hygyrchedd

Llwybr tarmac ar oleddf a ramp concrit: 1:10 i 1:18 am 72 metr. Cadair olwyn traeth ar gael i'w llogi.

Cyfleusterau sydd ar gael:
Dolen glyw