
Traeth tywodlyd llydan pan fydd y llanw’n isel ond digon o le hefyd ar lanw uchel. Harbwr tlws a golygfeydd ardderchog o ben y bryn.
Cynhelir digwyddiadau cyson fel Penacampwriaeth Coginio Cawl y Byd.
Ceir cyfyngiadau ar gŵn ar y traeth i gyd rhwng Mai 1af a Medi 30ain, oni bai am ardal fechan cyn i chi gyrraedd traeth Coppet Hall, Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn gweld i ba ran o’r traeth y mae’n berthnasol.
Caiff cŵn eu gwahardd yn wirfoddol o draeth Coppet Hall rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Mae perchnogion y traeth, Ystâd Castell Hean, yn sylweddoli y gall y traeth fod yn brysur iawn gyda theuluoedd ac nad hwn yw’r traeth gorau o bosib, i chi ddod â’ch ci yng nghanol yr haf.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Maes parcio mawr preifat ger yr harbwr. Maes Parcio mawr y Parc Cenedlaethol 200m o’r traeth.
Cyfleusterau
Llithrfa, harbwr. Gwylwyr y glannau o ddiwedd mis Mehefin hyd ddiwedd mis Medi. Fan hufen iâ ar y traeth. Cadair olwyn ar gyfer pob math o dirwedd (traeth) ar gael i’w llogi o’r ganolfan groeso.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Toiledau, canolfan groeso, nifer o gaffis, tafarndai a bwytai. Nifer o siopau diddorol a dewis da o westai, parciau carfanau, gwely a brecwast a hunanarlwyo. Peiriannau chwarae a chlwb nos.
Mynediad i'r traeth trwy lithrfa goncrit yn y pen gogleddol: 36 metr, dim mwy na 1:12 yn bennaf, ond 13 metr yn y canol ar 1:6 i 1:5. Hefyd i draeth Glen (yn y pen gorllewinol) trwy ramp igam ogam ar ddiwedd yr harbwr. Cadair olwyn traeth ar gael i'w llogi.
Dolen glyw