
Ar lanw isel, mae man croesi gwastad newydd wedi’i osod yn lle’r hen gerrig camu. Mae’r man croesi newydd bellach ar gael rhwng 3 awr ar ôl llanw uchel a thair awr cyn llanw uchel. Ar adegau eraill, mae’n rhaid i gerddwyr gerdded ar hyd y llwybr llanw uchel sy’n 4 milltir o hyd ac sy’n dilyn ffyrdd yn bennaf.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Mae maes parcio gyda 30 o leoedd uwchlaw’r traeth ac mae’n rhad ac am ddim!
Cyfleusterau
Llithrfa.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae gwersyll bach yn union uwchben y traeth ond dim cyfleusterau eraill; mae angen i chi ddod â phopeth gyda chi.
Dolen glyw