
Byddwch yn ofalus o geryntau cryf.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Ar draeth Porth Mawr.
Cyfleusterau
Dim.
Cyfleusterau ar yr arfordir Mae’r cyfleusterau agosaf ym Mhorth Mawr – toiledau, caffi a gwylwyr y glannau ar gael o ddiwedd mis Mai hyd ddechrau mis Medi. Yn Nhyddewi, mae Canolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol sydd ar agor drwy’r flwyddyn, nifer o gaffis, tafarndai a bwytai; nifer o siopau diddorol a dewis da o westai, parciau carafanau, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo.
Dolen glyw