Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Traeth Poppit

Map
Location Pin

Traeth Poppit

Wrth aber Afon Teifi, mae traeth Poppit yn draeth tywodlyd gyda thwyni tywod.

Mae digon o draeth ar lanw uchel ond pan fydd y llanw’n isel mae fel petai’r tywod yn ymestyn draw yr holl ffordd i Gwbert, yr ochr draw. Ond, peidiwch â mentro croesi gan fod y ceryntau’n rhy gryf. Gwyliwch y llanw wrth iddo ddod i mewn. Mae’n gyflym!

Dyma ddechrau neu ddiwedd Llwybr Arfordir Sir Benfro sy’n 186 milltir o hyd ac yn mynd â chi’r holl ffordd o gwmpas yr arfordir i Amroth yn y de.

Ceir cyfyngiadau ar gŵn ym mhen gorllewinol y traeth rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn gweld i ba ran o’r traeth y mae hyn yn berthnasol.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Mae maes parcio ger gorsaf bad achub yr RNLI.

Cyfleusterau

Mae gwylwyr y glannau yn gweithio rhwng diwedd mis Mehefin a dechrau mis Medi.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Toiledau a chaffi. Llandudoch yw’r pentref agosaf ac mae tafarnau, siop sglodion ac Abaty yno. Mae dewis da o westai, gwely a brecwast, llety ymwelwyr, meysyll carafanau a gwersylla yn yr ardal.

Sut i Ddod o Hyd i Ni

Poppit Sands Pembrokeshire
52.10561464783038, -4.697218276460973
actors.listen.driven

Hygyrchedd

Ramp concrit gyda rhwystr cam wrth gam: 1:8 i 1:10 i fyny am chwe metr at rodfa bren, yna 1:22 i lawr am 12 metr i'r olygfan ar flaen y traeth.
Cadair olwyn traeth ar gael i'w llogi.

Cyfleusterau sydd ar gael:
Dolen glyw