
Mae’n bosibl croesi’r afon ger y clwb hwylio i Draeth Trefdraeth. Mae’r ‘ffordd hir’ yn ôl yn mynd â chi ar hyd yr aber at y bont.
Gerllaw mae siambr gladdu Carreg Coetan.
Mae ambell i draeth o gerrig mân ond ni fyddem yn argymhell eich bod yn nofio yma.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Mae ychydig o leoedd parcio ger y clwb hwylio.
Cyfleusterau
Llithrfa.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Toiledau a chaffi ger y clwb hwylio.
Dolen glyw