Mae hwn yn fan prysur gan fod y traeth yn ffefryn gyda deifwyr sy’n mynd i Warchodfa Natur Morol Sgomer.
Mae’r llwybr serth o’r maes parcio i’r traeth.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Maes Parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cyfleusterau
Toiledau.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae Lockley Lodge, canolfan ddehongli ar gyfer Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, uwchben y traeth. Mae’r cyfleusterau agosaf ym mhentref Marloes sydd â thafarn, bwyty a chaffi/bar. Mae yno hefyd ddewis o leoedd gwely a brecwast a llety hunanarlwyo yn ogystal â meysydd gwersylla.