Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Traeth Marloes

Map
Location Pin

Traeth Marloes

Traeth tywodlyd anferth ar lanw isel, gyda chreigiau a ffurfiannau clogwyni diddorol. Mae pyllau glan môr ym mhen gorllewinol y traeth.

Ar lanw uchel, gall y traeth ddiflannu’n llwyr, ond ar lanw isel, mae digon i’w archwilio. Mae strata’r graig wedi rhannu’r traeth yn nifer o ‘faeau’ bychain sydd hyd yn oed yn fwy preifat.

Dringwch dros y creigiau yn y pen gorllewinol er mwyn dod o hyd i draeth Albion, traeth bach tywodlyd, perffaith. Pan fydd y llanw’n isel, gallwch weld yr hyn sy’n weddill o long a ddrylliwyd ar y traeth – y propsiafft.

Saethwyd golygfeydd o’r ffilm Hollywood “Snow White and the Huntsman”,  gyda Charlize Theron a Kristen Stewart, yma ym mis Medi 2011! Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ½ milltir o’r traeth.

Cyfleusterau

Dim.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae’r cyfleusterau agosaf ym mhentref Marloes sydd â thafarn, bwyty a chaffi/bar. Mae hefyd dewis o leoedd gwely a brecwast a llety hunanarlwyo yn ogystal â gwersylloedd. Mae fan hufen iâ yn y maes parcio.

Sut i Ddod o Hyd i Ni

Marloes Sands Pembrokeshire
51.7219362192001, -5.209501674956471
roofer.buildings.fixtures

Hygyrchedd

Cyfleusterau sydd ar gael:
Dolen glyw