
Mae Maenorbŷr yn draeth sy’n wynebu’r gorllewin ac felly mae’n draeth syrffio poblogaidd. Cofiwch, fodd bynnag, bod ceryntau cryf iawn yn y môr fan hyn.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
30 lle ym maes parcio’r Parc Cenedlaethol a 10 lle ychwaneol ar hyd yr arfordir tuag at Freshwater East.
Cyfleusterau
Toiledau. Fan hufen iâ.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae nifer o gaffis a thafarn ym Maenorbŷr. Mae dewis da o westai, lleoedd gwely a brecwast, tai llety, hunanarlwyo a maes carafanau/gwersylla. Mae Hostel Ieuenctid yn Skrinkle Haven ac mae castell mawreddog Maenorbŷr uwchben y traeth.
Mynediad i lwyfan pen traeth a sedd ar hyd llwybr gwastad, ond gall yr arwyneb fod yn arw. Mae gan y 40 metr olaf dri graddiant byr o hyd at 1:10.
Dolen glyw