
Mae promenâd uwch ben y traeth a morglawdd hir y gallwch gerdded ar ei hyd.
Oddi ar y traeth, weithiau gallwch weld dolffiniaid a heulforgwn yn nofio o gwmpas yr harbwr.
Ceir cyfyngiadau ar gŵn ym mhen gogleddol y traeth rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn gweld i ba ran o’r traeth mae hyn yn berthnasol.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Mae maes parcio talu ac arddangos ar gyfer 60 o geir uwchben y traeth.
Cyfleusterau
Toiledau, llithrfa.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae dewis da o westai, gwely a brecwast, tai llety a meysydd carafanau a gwersylla yn Abergwaun.
Dolen glyw