Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Traeth Freshwater East

Map
Location Pin

Traeth Freshwater East

Bae llydan o dywod euraid gyda thwyni tywod, a nant yn llifo drwy’r traeth yn y pen deheuol.

Ar lanw isel, daw digon o dywod i’r golwg fel bod lle i bawb chwarae gemau pêl heb boeni dim am amharu ar neb arall, ac mae’r clogwyni isel yn y pen dwyreiniol yn golygu bod sawl bae hyfryd a phreifat yma.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Gallwch chi barcio ar draws y ffordd.

Cyfleusterau

Llithrfa, toiledau.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Tu ôl i’r traeth mae Parc Carafanau Freshwater Bay sydd â chanolfan gweithgareddau awyr agored a chaffi a bwyty The Longhouse. Mae caffi/bwyty, ynghyd â thafarn a siop ym mhentref Frestwater East.

Sut i Ddod o Hyd i Ni

Freshwater East, Pembroke
51.64535090935192, -4.864428518085816
ballooned.careful.sliding

Hygyrchedd

Maes parcio deiliaid bathodyn glas yn unig ar wahân. Llwybr cerrig mâl o faes parcio deiliaid trwydded i’r brif fynedfa i’r traeth: 1:12 i 1:10 am 8 metr, yna llwybr concrit gwastad i dywod meddal. Cadair olwyn traeth ar gael i'w llogi, archebwch ymlaen llaw ar-lein yma.

Cyfleusterau sydd ar gael:
Dolen glyw